Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiad traffig ffyrdd, neu'n credu y gallech fod wedi bod yn dyst i drosedd ar y ffyrdd, dysgwch sut i riportio’r peth drwy ddefnyddio’n hadnodd ar-lein syml. Atebwch y cwestiynau cyflym isod i sicrhau ein bod yn rhoi'r cyngor cywir ichi ac yn casglu'r holl fanylion perthnasol.
Riportio gwrthdrawiad traffig ar y ffordd heb yswiriant
Diolch. Os ydych wedi cyfnewid manylion gyda’r bobl oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad, nid oes yn rhaid i chi ddweud wrth yr heddlu.
Gweler Adran 170 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 am ragor o fanylion
Fodd bynnag, os ydych chi’n credu nad oedd ganddynt yswiriant gallwch riportio hyn:
Cliciwch ‘Cychwyn’ isod i lenwi ein ffurflen syml ar-lein. Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch am y digwyddiad.
Fe fyddwn ni’n ceisio llenwi’r bylchau lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
Cyfartaledd amser cwblhau: 20 munud
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol gennych os yn bosibl:
Sylwch: Os gwnaethoch chi gyflwyno adroddiad digwyddiad traffig ffyrdd ar y wefan hon, byddwch yn gallu lawrlwytho copi o'ch adroddiad ar ôl ichi ei gyflwyno. Adroddiad gwrthdrawiad yw'r adroddiad hwnnw. Yna gallwch anfon yr adroddiad at eich cwmni yswiriant neu’ch cyfreithiwr.