Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiad traffig ffyrdd, neu'n credu y gallech fod wedi bod yn dyst i drosedd ar y ffyrdd, dysgwch sut i riportio’r peth drwy ddefnyddio’n hadnodd ar-lein syml. Atebwch y cwestiynau cyflym isod i sicrhau ein bod yn rhoi'r cyngor cywir ichi ac yn casglu'r holl fanylion perthnasol.
Riportio trosedd traffig ffyrdd a ddigwyddodd dros ddeng niwrnod yn ôl
Diolch. Yn ôl y gyfraith, dim ond i geidwad cofrestredig neu berchennog cerbyd modur y cawn ni gyflwyno 'Hysbysiad o’r Bwriad i Erlyn’ a hynny o fewn 14 diwrnod ar ôl trosedd honedig.
Rhaid i’ch adroddiad chi gael ei gyflwyno o fewn deng niwrnod ar ôl y drosedd honedig er mwyn rhoi amser i ninnau ymchwilio.
Gan fod y digwyddiad rydych chi'n ei riportio wedi digwydd fwy na deng niwrnod yn ôl, allwn ni ddim erlyn neb.
Does dim angen ichi gysylltu â ni ynglŷn â’r digwyddiad hwn.