Anghydfodau rhwng Cymdogion

Mae rhai materion fel parcio o flaen eich eiddo, trwsio cerbydau ar y ffordd/dreif breifat neu faterion ffiniau yn rhai preifat ac nid ydynt yn fater i'r Heddlu na'r Awdurdod Lleol
Gall anghydfodau rhwng cymdogion ddigwydd am amrywiaeth o resymau. Os yw'r anghydfod yn cynnwys ymosodiad, tor-heddwch neu ddifrod troseddol, mae'n fater i'r heddlu. Ffoniwch 101 neu 999 mewn argyfwng. Rhaid i'ch adroddiad gael ei gyfeirio at eich Awdurdod Lleol mewn rhai achosion, gweler isod
Os ydych naill ai'n byw mewn tai cyngor neu dai a gaiff eu rheoli gan landlord cymdeithasol, eich pwynt cyswllt cyntaf fydd eich swyddog tai
Gwybodaeth Gyswllt
Y Sefydliad | Rhif Cyswllt | Gwefan |
---|---|---|
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent | 01874 624704 | www.blaenau-gwent.gov.uk |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili | 01443 815588 neu 01495 226622 | www.caerphilly.gov.uk |
Cyngor Sir Fynwy | 01633 644644 | www.monmouthshire.gov.uk |
Cyngor Dinas Casnewydd | 01633 656656 | www.newport.gov.uk |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | 01495 762200 | www.torfaen.gov.uk |