A welsoch chi unrhyw beth? Mae swyddogion yn ymchwilio yn dilyn byrgleriaeth a thân bwriadol yn The Venue ar Heol Commonwealth yng Nglyn Ebwy.
Digwyddodd tua 5am ddydd Gwener 1af Mehefin pan ddefnyddiwyd grym i agor drws a oedd wedi'i gloi.
Cyneuwyd tân, yn fwriadol yn ôl yr hyn a dybir, gan achosi difrod strwythurol i'r adeilad.
Dyweder fod y troseddwyr wedi dianc gydag arian.
Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111 gan ddyfynnu rhif cofnod 60 01/06/2018.