Diweddariad ar ôl i gerbyd amheus fynd at ferch 17 oed yn Fleur-de-lis

DIWEDDARIAD: Yr wythnos diwethaf, ddydd Mercher 6 Mawrth, cyhoeddwyd apêl am wybodaeth ar ôl i ddyn mewn cerbyd fynd at ferch 17 oed yn ardal Victoria Road, Fleur-de-lis.

Yn dilyn ymchwiliadau, mae dyn 67 oed o ardal Gaerffili wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwsans cyhoeddus. Mae ef bellach wedi cael ei ryddhau tra'n destun ymchwiliad.