Yr wythnos ddiwethaf gwnaethom apelio am wybodaeth mewn perthynas â byrgleriaeth yn Ringland, Casnewydd.
Mae dyn 22 oed o Gasnewydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fyrgleriaeth mewn perthynas â’r digwyddiad hwn ac mae wedi cael ei ryddhau tra bod ymchwiliad yn parhau.
Mae ymholiadau’n parhau a gofynnir i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad ffonio 101 gan ddyfynnu rhif cofnod 1900374126 neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.