Dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymgais i lofruddio - Cefn-y-pant

Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar ôl i ddyn gael ei drywanu yng Nghefn-y-pant neithiwr, nos Iau 28 Mai.

 Ymosodwyd ar ddyn 23 oed  o Gwm-carn ar Old Pant Road, Cefn-y-pant, tua 7.55pm. Cafodd ei drywanu yn ei frest ac mae mewn cyflwr sefydlog ar hyn o bryd, yn derbyn triniaeth feddygol yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

 Mae'r dyn 19 oed o ardal Penpedairheol wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymgais i lofruddio ac mae yn y ddalfa ar hyn o bryd

 Hoffai swyddogion siarad ag unrhyw un a oedd yn ardal Old Pant Road neithiwr rhwng 7-8pm sydd â gwybodaeth a allai helpu ein hymholiadau.

 Ffoniwch 101 neu anfonwch neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu Twitter gan ddyfynnu 2000186315.