Galw yn ôl i'r carchar

Rydym yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i Paul Wramba, 65 oed, o Gasnewydd, sydd wedi torri amodau ei drwydded ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar ar 7 Mehefin 2019.

Cafodd Wramba ei ddedfrydu i ddwy flynedd a thri mis yn y carchar am anafu yn Llys y Goron Caerdydd ar 11 Rhagfyr 2017.

Oherwydd bod Wramba, a gafodd ei ryddhau ar drwydded, wedi torri amodau ei drwydded, mae wedi cael ei alw yn ôl i'r carchar yn awr.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth ffoniwch 101 gan ddyfynnu 1900338930 neu ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111.