Galw yn ôl i'r carchar

Rydym yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i Mohamed Ali Ahmedpor, 27 oed, o Gasnewydd, sydd wedi torri amodau ei drwydded ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar ar 13 Mawrth 2019.

Cafodd Mohamed Ali Ahmedpor ei ddedfrydu i flwyddyn a dau fis yn y carchar am yrru'n ddi-hid yn Llys y Goron Caerdydd ar 26 Medi 2018.

Oherwydd bod Mohamed Ali Ahmedpor, a gafodd ei ryddhau ar drwydded, wedi torri amodau ei drwydded, mae wedi cael ei alw yn ôl i'r carchar yn awr.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth ffoniwch 101 gan ddyfynnu 1900311881 neu ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111.