Galw yn ôl i'r carchar: Dyn o Gasnewydd

Mae Heddlu Gwent yn apelio eto am wybodaeth i ddod o hyd i Mohamed Ali Ahmedpor a dorrodd amodau ei drwydded ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar ar 13 Mawrth 2019.

Derbyniodd y dyn 28 oed o Gasnewydd ddedfryd o 14 mis yn y carchar am yrru'n ddi-hid yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Medi 2018.

Oherwydd bod Mohamed Ali Ahmedpor, a gafodd ei ryddhau ar drwydded, wedi torri amodau ei drwydded, mae wedi cael ei alw yn ôl i'r carchar yn awr.

Gofynnir i unrhyw un a all helpu ffonio Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu 1900311881. Gallwch anfon neges uniongyrchol at Heddlu Gwent ar Facebook neu Twitter hefyd. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.