Galw yn ôl i'r Carchar - Garth Morgan - Casnewydd

Rydym yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i Garth Morgan o Gasnewydd sydd wedi torri amodau ei drwydded ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar ar 14 Awst 2020.

Derbyniodd Morgan ddedfryd o 3 blynedd a 4 mis yn y carchar yn Llys y Goron Casnewydd ar 7 Ionawr 2019 am feddu ar gyffuriau dosbarth A gyda bwriad o gyflenwi.

Oherwydd bod Morgan, a gafodd ei ryddhau ar drwydded, wedi torri amodau ei drwydded, mae wedi cael ei alw yn ôl i'r carchar yn awr.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, ffoniwch 101 gan ddyfynnu 365 09/09/20 neu ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111.