Galw yn ôl i'r carchar - Ydych chi wedi gweld y dyn hwn?

Rydym yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i Aaron Ashwood o Gasnewydd.

Mae Ashwood, sy'n 22 oed, wedi torri amodau ei drwydded ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar ar 31 Mawrth 2020.

Derbyniodd Ashwood ddedfryd o bedair blynedd yn y carchar am ddwyn yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Tachwedd 2016.

Oherwydd bod Ashwood, a gafodd ei ryddhau  ar drwydded wedi torri amodau ei drwydded mae wedi cael ei alw yn ôl i'r carchar yn awr.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, ffoniwch 101 gan ddyfynnu 2000235805 neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.