Ydych chi wedi gweld Demi-Leigh Burn, 17 oed, sydd ar goll?

Rydym yn apelio am wybodaeth am Demi-Leigh Burn, 17 oed, sydd ar goll.

 

Y tro diwethaf i Demi gael ei gweld oedd yn ei thref enedigol, Port Talbot, dydd Sul 26 Mai 2019, ac nid yw wedi cael ei gweld ers hynny. Mae'n hysbys bod ganddi gysylltiadau ag ardal Casnewydd ac mae swyddogion yn pryderu am ei lles.

 

Yn ôl y disgrifiad mae Demi'n 5 troedfedd 1 modfedd o daldra, mae'n fain ac mae ganddi wallt hir tywyll a llygaid brown. Y tro diwethaf iddi gael ei gweld roedd yn gwisgo legins du a siwmper lwyd.

 

Os ydych chi wedi gweld Demi neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am ble mae hi, cysylltwch â Heddlu Gwent trwy ffonio 101 gan ddyfynnu rhif cofnod 1900190160. Gallwch anfon neges uniongyrchol at dudalennau cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter Heddlu Gwent hefyd, neu gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.