Heddiw (dydd Llun 18 Tachwedd 2019), dedfrydwyd Neil Brooks yn Llys y Goron Caerdydd, ar ôl i achos llys ei gael yn euog o droseddau o achosi marwolaeth trwy yrru peryglus ac achosi anaf difrifol trwy yrru peryglus.
Digwyddodd y gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar Heol y Brenin, Brynmawr, tua 12.25am ddydd Mercher 26 Gorffennaf 2017. Yn drist, cyhoeddwyd bod Sophie Brimble, 20 oed o Grughywel, wedi marw ar y safle.
Dedfrydwyd Mr Brooks i wyth mlynedd yn y carchar a chafodd ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd gan ddechrau ar y diwrnod y caiff ei ryddhau.
Cwnstabl Darren Sullivan o adran Ymchwilio i Wrthdrawiadau Heddlu Gwent oedd y swyddog yn yr achos hwn. Dywedodd;
“Heddiw yw terfyn ymchwiliad hir ac anodd ac mae'r ddedfryd yn adlewyrchu barn y llys am weithredoedd y gyrrwr a'r rhan a chwaraeodd yn y drasiedi hon.
"Mae ein cydymdeimlad â theulu Sophie Brimble, a gollodd ei bywyd yn y gwrthdrawiad hwn. Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r teulu Brimble am eu hamynedd, eu dealltwriaeth a'u gonestrwydd trwy gydol yr ymchwiliad a'r achos llys dilynol.
"Hoffwn ddiolch i'r bobl hynny a gyflwynodd eu hunain i ni ac a roddodd dystiolaeth yn yr achos hefyd."
"Collodd menyw ifanc ei bywyd yn ddiangen y noson honno. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn atgoffa pawb am ganlyniadau gyrru'n beryglus ar ein ffyrdd."