Mae swyddogion wedi adfer nifer o ddarnau arian coffa o gerbyd ym Mlaenafon y credir oedd wedi cael ei ddwyn.
Rydym yn apelio am wybodaeth er mwyn gallu dychwelyd yr eitemau i'w perchnogion.
Mae'r eitemau'n cynnwys darn arian i goffáu Tywysoges Diana, darn arian i ddathlu 50 mlynedd o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ceiniogau a hanner ceiniogau o'r 1900oedd i’r 1960au.
Os ydych chi'n credu bod unrhyw rai o'r eitemau'n perthyn i chi, cysylltwch â ni ar 101 gan ddyfynnu rhif cofnod 1900389658, neu gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Gallwch anfon neges uniongyrchol at dudalennau Facebook a Twitter Heddlu Gwent hefyd.