Apêl yn dilyn lladrad wagen geffylau

Rydym yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad wagen geffylau o ardal Fferm Tir y Berth ym Mhenpedairheol.

Digwyddodd y lladrad rhwng 4pm dydd Mercher 29ain Tachwedd a 8am dydd Iau 30ain Tachwedd 2017.

Ifor Williams 505 Classic du yw’r wagen geffylau sydd wedi cael ei dwyn (gweler y llun).

Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth am y lladrad hwn ffoniwch 101 gan ddyfynnu cofnodrif 52 30/11/17. Gallwch hefyd gysylltu â’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu drwy ei gwefan Crimestoppers-uk.org