Lladrad cerbydau, Ystâd Ddiwydiannol Gilchrist Thomas

Rydym yn apelio am wybodaeth ar ôl i lori 7.5 tunnell a Chraen Palfinger Railway prin gwerth £50, 000 gael eu dwyn o ffatri ar Ystâd Ddiwydiannol Gilchrist Thomas ym Mlaenafon.

Digwyddodd y lladrad tua 10.40pm ar ddydd Mercher 14 Chwefror. Canfuwyd y lori yn ddiweddarach yn y Coed-duon ond mae’r craen yn dal ar goll.

Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth am y digwyddiad hwn neu os ydych yn gwybod lle mae’r craen hwn, ffoniwch 101 gan ddyfynnu rhif cofnod 55 15/2/18.