Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd byrgleriaid yn defnyddio amrywiaeth o ffyrdd i osgoi cael eu gweld.
Nid ydynt eisiau cael eu gweld na’u clywed gan gymydog neu rywun sy’n mynd heibio oherwydd y byddant yn poeni y gallant gael eu hadnabod.
Bydd byrgleriaid tynnu sylw yn esgus bod yn rhywun nad ydynt, felly mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r dulliau cyffredin y byddant yn eu defnyddio i’ch perswadio chi i’w gadael i mewn i’ch eiddo.
Dyma ychydig gynghorion defnyddiol, yn gyntaf ynglŷn â helpu i gadw byrgleriaid allan drwy beidio rhoi rhywle iddynt guddio ac, yn ail, ynglŷn â sut i atal byrgleriaeth drwy dynnu sylw.
Gallech feddwl mai'r peth gorau fyddai gwneud eiddo'n llai gweladwy o'r stryd, a'i gadw ynghudd y tu ôl i lwyni, coed, ffensys neu waliau uchel. Mewn gwirionedd, y cyfan y mae hyn yn ei wneud yw ei gwneud yn haws i fyrgler ddod yn agos at gartref heb i neb sylwi, a rhoi rhywle i guddio wrth gyflawni byrgleriaeth neu ladrad o'r eiddo.
I gael rhagor o wybodaeth am greu ffin, ewch i'n cyngor ar ddifrod troseddol.
Drwy ddefnyddio ffiniau pendant fel sail, gall CCTV fod yn adnodd gwerthfawr. Serch hynny, nid yw'n atal troseddau rhag cael eu cyflawni ac mae yna gyfyngiadau.
Bydd teledu cylch cyfyng sydd wedi'i gysylltu â ffôn clyfar yn eich rhybuddio am rywun sy'n croesi'ch ffin.
Yn bwysicaf oll, fydd CCTV ddim yn cymryd lle diogelwch ffisegol o safon, megis drysau a ffenestri diogel.
Mae rhai camerâu yn gweithio drwy’r dydd a’r nos, ac yn recordio pan fyddan nhw’n synhwyro symudiad. Gall rhai gael eu gwylio o bell o ffôn clyfar.
Gosodwch gamerâu lle maen nhw yn y lle gorau i gael delweddau da o wynebau. Allech chi adnabod rhywun o'r lluniau?
Mae yna ddeddfwriaeth ar ddefnyddio CCTV gartref, felly dylech bob amser ofyn am gyngor gan osodwr achrededig yn gyntaf i sicrhau bod eich system chi’n cydymffurfio â'r gyfraith.
Codwch arwyddion rhybudd bod CCTV yn cael ei ddefnyddio.
I gael cyngor a rhestr o gyflenwyr CCTV a gymeradwywyd, ewch at yr Arolygiaeth Diogelwch Genedlaethol a'r Bwrdd Arolygu Systemau Diogelwch a Larymau.
Ystyriwch system larwm lladron achrededig gyda blychau larwm clywadwy wedi'u gosod ar flaen a chefn eich cartref. Mae dau flwch larwm gweladwy yn well nag un. Dylech eu gosod ar flaen a chefn eich cartref, yn uchel i atal pobl rhag ymyrryd.
Mae tri math o larwm lladron, sy'n amrywio o ran eu gallu a’u cost:
Bydd yr heddlu fel arfer yn ymateb i larwm lladron os bydd cwmni monitro’n gofyn, ond maen nhw’n llai tebygol o ymateb i larwm sydd heb ei fonitro.
Os oes gennych estyniad i'ch cartref cofiwch ymestyn eich larwm lladron hefyd.
Gwyddom fod lladron yn defnyddio ysgolion i gyrraedd ffenestri uwch sy’n edrych fel pe baent heb eu cloi. Maent yn gwneud hyn er mwyn osgoi synwyryddion larwm ar y llawr isaf. Er mwyn helpu i amddiffyn eich eiddo rhag y dull hwn, dylech ymestyn unrhyw synhwyrydd larwm i gynnwys ystafelloedd uwch.
Mae arwyddion yn ataliad effeithiol os cân nhw eu defnyddio gyda system larwm weithredol.
I gael cyngor a rhestr o gyflenwyr CCTV a gymeradwywyd, ewch at yr Arolygiaeth Diogelwch Genedlaethol a'r Bwrdd Arolygu Systemau Diogelwch a Larymau.
Mae goleuadau yn ddull atal da ac fe'u hargymhellir wrth ddrysau gan fod hynny'n ei gwneud yn fwy diogel i chi wrth fynd a dod ar ôl iddi dywyllu.
Mae golau gwyn clir, isel sy'n goleuo rhwng y gwyll a’r wawr yn ddelfrydol at oleuo iard a gardd a chaniatáu i unrhyw un gael ei weld yn glir.
Gofalwch na fydd coed a phlanhigion yn cuddio'ch golau. Argymhellir eich bod yn torri llystyfiant yn ôl yn rheolaidd.
Gofalwch osod y goleuadau hyn fel na fydd llygredd golau yn cythruddo’ch cymdogion.
Defnyddiwch switsh amser awtomatig i weithredu lamp neu olau ar adegau a osodir ymlaen llaw pan fyddwch i ffwrdd.
Bylbiau LED sy’n arbed ynni sydd orau gan nad ydyn nhw’n defnyddio cymaint o drydan, eu bod yn para'n hirach na bylbiau confensiynol, ac nad ydyn nhw’n creu gwres, gan leihau'r risg o dân.
Mewn blociau o fflatiau, mae goleuadau ynni isel awtomatig sy'n canfod symudiadau yn cael eu hargymell ar gyfer coridorau, grisiau a mannau cymunedol fel meysydd parcio a storfeydd beiciau.
Mae byrgleriaid tynnu sylw yn esgus bod yn rhywun nad ydynt er mwyn cael mynediad i’ch cartref.
Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i atal bwrgleriaeth drwy dynnu sylw. Peidiwch â bod ofn holi am unrhyw un sy’n dod i’r drws – fydd dim ots gan ymwelwyr dilys. Cofiwch bob amser 'os oes amheuaeth, cadwch y tacle allan o’ch cartre':
Os ydych chi’n teimlo dan fygythiad neu mewn perygl oherwydd presenoldeb y galwr, ffoniwch 999.