Rhoi gwybod i ni am waith ffilmio
Boed eich bod yn saethu ar leoliad neu wrth symud, mae’n bwysig gweld a oes angen presenoldeb yr heddlu, pa awdurdodau y mae angen rhoi gwybod iddynt a sut i gadw eich cast, criw a’r cyhoedd yn gyffredinol yn ddiogel.
A oes angen i chi roi gwybod i ni am eich gwaith ffilmio?
Bydd angen presenoldeb yr heddlu ar gyfer unrhyw waith ffilmio yn yr amgylchiadau canlynol:
- mae’n debygol y bydd materion yn ymwneud â diogelwch y cyhoedd
- gellir gweld golygfeydd o droseddau’n cael eu cyflawni o fan cyhoeddus
- mae’r ffilmio’n cynnwys cerbydau brys â lifrai neu actorion mewn gwisg heddlu neu wisg filwrol fodern
- gellir gweld noethni neu noethni ymddangosiadol o fan cyhoeddus
- defnyddir arfau, boed hwy’n rhai go iawn neu’n bropiau, ac y gellir eu gweld o fan cyhoeddus
- mae ffilmio ar gerbyd llwytho isel neu draciau yn digwydd ar ffordd gyhoeddus
Os oes unrhyw rai o’r sefyllfaoedd uchod yn berthnasol i chi, llenwch ein ffurflen ‘hysbysiad ffilmio’ hawdd a chyflym. Cliciwch 'Dechrau' isod i ddechrau.
Unwaith y byddwn yn derbyn eich ffurflen, byddwn yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth.
Sylwer, nid ffurflen ar gyfer riportio digwyddiadau, troseddau neu i gael cymorth yw hon. Os oes rhywun mewn perygl ar hyn o bryd neu os oes trosedd wrthi’n cael ei chyflawni, ffoniwch 999.
Cyfartaledd amser cwblhau: pum munud