Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Er mwyn portreadu Heddlu Gwent mewn print, ar ffilm neu mewn darllediad teledu, efallai y bydd angen cytundeb neu drwydded eiddo deallusol arnoch.
Er mwyn gwneud cais i ddefnyddio ein heiddo deallusol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein ffurflen gwneud cais am drwydded eiddo deallusol ar-lein syml a chyflym.
Mae logo Heddlu Gwent, lifrai, bathodynnau cap, arfbais frenhinol, bathodyn gwarant, lifrai cerbydau, gwaith papur ac eitemau eraill Heddlu Gwent yn hawlfraint Heddlu Gwent. Mae gan rai o’r rhain nod masnach hefyd.
Efallai y byddwn yn rhoi caniatâd a chymeradwyaeth i ddelwedd ymddangos yn achlysurol, megis yn y cefndir mewn gêm bêl-droed, neu’n rheoli traffig.
Pan fyddwch angen heddlu at ddibenion hysbysebu, byddem yn awgrymu eich bod yn portreadu heddlu generig, heb unrhyw logos neu fathodynnau sy’n dangos pwy ydym.
Nid ydym yn llogi swyddogion, staff nac anifeiliaid yr heddlu fel perfformwyr, ond gallwn gynnig cyngor a chefnogaeth. I gael gwybod rhagor, e-bostiwch ni.
Nid yw Heddlu Gwent yn llogi lifrai, offer na cherbydau, ond gallwch gael y rhain i gyd gan wahanol ddarparwyr cofrestredig. Ewch i’n tudalen bod yn berchen ar a chludo offer yr heddlu neu ukfilmandtv.com i gael rhagor o wybodaeth.