Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r holl ddeunydd ar y wefan hon yn ddarostyngedig i hawlfraint. Oni bai y nodir yn benodol bod deunydd ar gael ar gyfer ei ddefnyddio’n gyffredinol yna ni ddylid ei gopïo na’i ailddefnyddio heb ganiatâd penodol Heddlu Gwent neu ddeiliaid hawlfraint eraill pan ddefnyddir deunydd dan drwydded.
Yr unig eithriadau yw’r rheini a ganiateir o dan gyfraith hawlfraint, lle gellir defnyddio deunydd heb ganiatâd neu dâl ar gyfer:
Mae hyn yn amodol ar fod y deunydd yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nid cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid cyfeirio’n gywir at ffynhonnell y deunydd.
Mae logo Heddlu Gwent wedi’i gofrestru yn y Swyddfa Batent fel nod masnach.
Er ein bod y ceisio gwneud yn siŵr bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, fe’i darperir ar sail ‘fel y mae’, heb warantau o unrhyw fath, ac ni roddir unrhyw warant, datganedig neu oblygedig, ynglŷn â chywirdeb neu gyflawnder.
Nid yw Heddlu Gwent yn derbyn atebolrwydd am unrhyw wall neu hepgoriad. Ni fydd Heddlu Gwent yn atebol am unrhyw hawliadau neu golledion o unrhyw fath gan drydydd parti yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i, golli elw, iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol sy’n deillio o ddefnyddio neu anallu i ddefnyddio’r wefan hon gan drydydd parti.
Nid yw’r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol neu gyngor proffesiynol arall.
Nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd i greu dolenni i unrhyw dudalennau ar y wefan hon. Ni ddylech agor ein tudalennau o fewn fframset neu unrhyw strwythur arall a allai arwain at fod deunydd gan Heddlu Gwent yn cael ei ystyried fel rhan o wefan arall.
Nid yw Heddlu Gwent yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y deunydd ar unrhyw wefan y mae dolen hyperdestun o’r wefan hon yn bodoli. Darperir y dolenni 'fel ag y maent' heb unrhyw warant, datganedig neu oblygedig, am y wybodaeth a ddarperir ynddynt.