Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae angen gweithlu amrywiol ar Heddlu Gwent gydag amrywiaeth o sgiliau a galluoedd i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gymunedau Gwent. Oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i ymuno â’n tîm? Mae gennym ni swyddi mewn iwnifform a swyddi staff, ‘does dim gwahaniaeth os ydych chi’n newydd i’r maes plismona neu’n chwilio am newid.
Byddwch yn ymwybodol mai’r unig ffordd i ymgeisio am swyddi yn Heddlu Gwent yw trwy gyfrwng ein gwefan swyddogol, www.gwent.police.uk. Dylai unrhyw swyddi gwag sy’n cael eu hysbysebu ar unrhyw wefannau neu blatfformau eraill gysylltu’n ôl at ein gwefan ni bob tro. Os nad yw hysbyseb swydd sy’n hawlio i fod ar gyfer Heddlu Gwent yn eich cyfeirio chi at ein gwefan i ymgeisio, mae’n bosibl nad yw’n ddilys. Dylech wirio ein gwefan yn uniongyrchol i sicrhau eich bod yn edrych ar swyddi gwag go iawn.
Mae’r Cynllun Cysgodi’n cynnig cyfle i aelodau’r cyhoedd ymuno â’n swyddogion ar batrôl a chael profiad uniongyrchol o blismona bob dydd.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy amdanom ni? Cliciwch isod.
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a X i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.
![]() |