Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent wedi addo cefnogi Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog, menter gan y llywodraeth i hybu gwell dealltwriaeth a chydweithrediad rhwng y lluoedd arfog a'r cyhoedd.
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cynrychioli addewid gan y genedl i gefnogi personél milwrol a'u teuluoedd. Mae'n addewid gwirfoddol sy'n cydnabod y dylid trin y rheini sy'n gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'u teuluoedd, gyda thegwch a pharch gan y cymunedau, economi a'r gymdeithas y maent yn eu gwasanaethu gyda'u bywydau.
Mae ymrwymiad Heddlu Gwent i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog wedi cael ei gydnabod gan Gynllun Cydnabod Cyflogwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae'r Cynllun yn cydnabod cefnogaeth gan sefydliadau i gymuned y Lluoedd Arfog, ac mae Heddlu Gwent yn falch i fod wedi derbyn Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.
Mae Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn wobr uchel ei bri sy’n cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle.
Mae'r heddlu'n un o 17 o sefydliadau yng Nghymru sydd wedi derbyn Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer 2023.
I gyflawni statws Arian:
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a X i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.