Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rheolir defnydd a datgeliad data personol yn y Deyrnas Unedig gan Ddeddf Diogelu Data 2018 (y Ddeddf). Dan y Ddeddf, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent yw’r rheolwr data ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol gan yr heddlu. Yng ngweddill yr hysbysiad preifatrwydd hwn cyfeirir at Brif Gwnstabl Heddlu Gwent fel ni.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro:
Byddwn yn trin y wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni wrth ddefnyddio’r wefan hon yn gyfrinachol a byddwn ond yn ei datgelu i drydydd parti os yw’r gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol i wneud hynny, neu yn yr amgylchiadau a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Rydym yn casglu gwybodaeth am ddefnydd y wefan er mwyn cynorthwyo i ddatblygu a gwella gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd, ac i ddiogelu ein systemau rhag defnyddwyr maleisus. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth drwy’r gwahanol weithrediadau sydd ar gael ar y wefan sy’n caniatáu i chi roi gwybodaeth i ni (megis ffurflenni ar-lein a’r gweithgaredd sgwrsio byw) at y dibenion a ddisgrifir yn ddiweddarach yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn. Ar hyn o bryd mae’r wybodaeth hon yn cynnwys:
Data personol yw unrhyw wybodaeth yr ydym yn ei thrin sy’n ymwneud â bod dynol adnabyddedig neu adnabyddadwy. ‘Bod dynol adnabyddadwy yw un y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy wybodaeth, yn cynnwys wrth gyfeirio at enw, rhif adnabod, data lleoliad, dyfais adnabod ar-lein neu un neu fwy o ffactorau penodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol y bod dynol hwnnw.
Ein Tîm Diogelu Data sy’n rheoli ein cydymffurfedd â diogelu data. Gellir cysylltu â’r Prif Swyddog Diogelu data ar gyfer Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent gan ddefnyddio’r manylion isod:
Swyddfa Diogelu Data
Pencadlys Heddlu Gwent
Ffordd Parc Llantarnam
Llantarnam
CWMBRÂN
NP44 3FW
E-bost: [email protected]
Rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’n cyfrifoldebau parthed diogelu data. Rydym yn ofalus iawn i sicrhau ein bod yn prosesu eich data personol yn gywir er mwyn cynnal eich ymddiriedaeth a’ch hyder. Gallwch gysylltu â’n Tîm Diogelu Data neu ein Swyddog Diogelu Data oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â sut yr ydym yn prosesu eich data personol.
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i gynnal y gyfraith, atal troseddu, dwyn troseddwyr gerbron llys, a diogelu’r cyhoedd. Er mwyn gwneud hyn rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol i gyflawni ystod o weithgareddau a adnabyddir yn gyffredin fel y ‘diben plismona’. Mae’r rhain yn cynnwys:
Rydym hefyd yn prosesu data personol at ddibenion sy’n cefnogi’r diben plismona. Mae’r rhain yn cynnwys: recriwtio; gweinyddu gweithwyr presennol a chyn weithwyr, contractwyr, a gwirfoddolwyr; rheoli eiddo ac asedau; rheolaeth ariannol; rheoli cysylltiadau â’r cyfryngau, trin cwynion; ymchwil, yn cynnwys arolygon; a darparu rhaglenni a chefnogaeth addysgol.
Rydym yn prosesu gwybodaeth yn ymwneud ag ystod o unigolion, sy’n cynnwys:
Gallwn brosesu data personol sy'n ymwneud â'r categorïau canlynol, neu sy'n eu cwmpasu:
** I gael rhagor o wybodaeth am ein defnydd o Dechnoleg Adnabod Wynebau amser byw ewch i Technoleg Adnabod Wynebau.
Bydd y mathau o ddata personol rydym yn eu prosesu yn amrywio yn dibynnu ar y diben. Nid yw'r rhestr uchod yn gynhwysfawr. Ein nod yw prosesu cyn lleied o ddata personol â phosibl er mwyn cyflawni'r diben perthnasol. Ni ddylech dybio ein bod yn cadw data personol ym mhob un o'r categorïau a nodwyd ar gyfer pob unigolyn rydym yn prosesu ei ddata personol.
Rydym yn casglu data personol o amrywiaeth o ffynonellau, yn cynnwys:
Pan fyddwn yn prosesu data personol at ddibenion plismona ein sail gyfreithiol dros ei brosesu o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 yw bod hyn yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth gyflawni awdurdod swyddogol a roddwyd i ni. Mae ein swyddogaethau a’r awdurdod swyddogol a roddwyd i ni wedi’u seilio mewn cyfraith gyffredin a’u hategu gan ddeddfwriaethau megis Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, Deddf yr Heddlu 1996, a Deddf Diwygio’r Heddlu 2002.
Pan fyddwn yn prosesu data personol yn ymwneud ag euogfarnau troseddol a throseddau, mae’r prosesu hwnnw yn angenrheidiol am resymau budd y cyhoedd sylweddol ac mae’n cynnwys gweithredu swyddogaeth a roddwyd i ni gan ddeddfiad neu reolaeth y gyfraith. Mae gennym ddogfen bolisi briodol (fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf) ar gyfer y prosesu hwnnw.
Pan fyddwn yn prosesu data personol am resymau heblaw dibenion plismona bydd ein sail gyfreithiol dros brosesu yn amrywio yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Fel arferol, y sail gyfreithiol berthnasol yw prosesu am y rhesymau canlynol:
ac ar adegau:
Rydym yn ystyried diogelwch yr holl ddata personol sydd o dan ein rheolaeth yn fater difrifol. Rydym yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol ynglŷn â diogelwch, rhannau perthnasol Safon Diogelwch Gwybodaeth ISO27001, a lle bo hynny’n briodol canllawiau Arfer Proffesiynol Awdurdodedig ar Sicrwydd Gwybodaeth y Coleg Plismona.
Rydym yn sicrhau bod polisi, hyfforddiant, mesurau technegol a gweithdrefnol ar waith, yn cynnwys archwilio ac arolygu, er mwyn diogelu ein systemau gwybodaeth electronig ac â llaw rhag cael eu colli neu eu camddefnyddio. Dim ond pan fydd rheswm dilys yr ydym yn rhoi mynediad a hynny o dan ganllawiau llym ynglŷn â pha ddefnydd y gellir ei wneud o unrhyw ddata personol sydd ynddynt. Rydym yn rheoli ac yn gwella ein cydymffurfedd â safonau a chanllawiau perthnasol wedi’u diweddaru er mwyn cael diogelwch digonol ar ddata personol.
Efallai y byddwn yn datgelu data personol i ystod eang o dderbynwyr mewn unrhyw ran o’r byd (yn cynnwys y tu allan i’r Deyrnas Unedig a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd), yn cynnwys y rheini yr ydym yn derbyn data personol yn wreiddiol ganddynt. Gall derbynwyr gynnwys:
Rhoddir ystyriaeth i ddatgeliadau fesul achos, gan sicrhau mai dim ond y wybodaeth bersonol sy’n angenrheidiol at ddiben penodol cyfreithiol a ddatgelir gyda rheolaethau a mesurau diogelu priodol ar waith.
Bydd yr holl ffurflenni ar-lein sydd wedi’u cwblhau a gyflwynir i Heddlu Gwent yn cael eu hanfon yn ddiogel yn awtomatig i dîm TG canolog yr heddlu sy’n gyfrifol am ddarparu Portffolio Plismona Digidol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu.
Rydym yn cadw eich data personol cyhyd ag sydd ei angen ar gyfer y diben neu’r dibenion penodol yr ydym yn ei ddal.
Caiff data personol a ddelir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu ei gadw, ei adolygu a’i ddileu yn unol â’r cyfnodau cadw cytunedig yn genedlaethol, a allai gael eu newid o bryd i’w gilydd.
Byddwn yn cadw cofnodion sy’n cynnwys data personol yn ymwneud ag ymchwiliadau troseddol, cudd-wybodaeth, diogelwch y cyhoedd, a chadwraeth yn unol â chanllawiau'r Coleg Plismona ar Reoli Gwybodaeth yr Heddlu.
O dan y Ddeddf mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer parthed y data personol yr ydym yn ei brosesu amdanoch. Nid oes yn rhaid i chi dalu i arfer eich hawliau (oni bai am ffi resymol os yw eich cais am fynediad yn amlwg yn ddi-sail neu’n eithafol ond rydym yn cytuno i’w gyflawni beth bynnag).
A fyddech cystal â nodi y bydd amgylchiadau pan na allwn gydymffurfio â’ch cais i arfer eich hawliau oherwydd natur y prosesu sy’n digwydd. Fe wnawn ein gorau i gwblhau ceisiadau hawliau pan fydd hi’n bosibl gwneud hynny.
Byddwn yn ymateb i’ch cais hawliau o fewn 1 mis o’i dderbyn er weithiau bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych er mwyn ein helpu i gadarnhau pwy ydych chi a sicrhau eich awdurdod i arfer yr hawliau neu i allu canfod y data personol yr ydych yn gofyn amdano. Ar gyfer ceisiadau sy’n ymwneud â phrosesu cyffredinol (dim gorfodi’r gyfraith) a bod angen gwybodaeth ychwanegol neu fod y cais yn gymhleth ac na ellir ei gyflawni mewn 1 mis byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn ac yn ceisio darparu ymateb llawn o fewn 2 fis arall.
Hawl Mynediad: Gallwch wneud cais i gael gweld y data personol yr ydym yn ei ddal amdanoch am ddim. Fel arfer byddwn yn ei ddarparu o fewn un mis o dderbyn eich cais oni bai bod eithriad yn berthnasol. Gallwch wneud cais am fynediad at y data personol yr ydym yn ei ddal amdanoch gan ddefnyddio’r manylion cyswllt yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Yr Hawl i gael Gwybod: Mae gennych hawl i gael gwybod a ydym yn prosesu eich data personol, sut yr ydym yn cael gafael arno a sut yr ydym yn ei ddefnyddio, ei gadw a’i storio, a gyda phwy yr ydym yn ei rannu. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ceisio rhoi’r wybodaeth honno i chi, yn ogystal ag egluro beth yw eich hawliau.
Yr Hawl i Gywiro: Os ydym yn dal data personol amdanoch sy’n anghywir neu’n anghyflawn mae gennych hawl i ofyn i ni ei gywiro. Gallwch ofyn i ni gywiro eich data personol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Yr Hawl i Ofyn am Ddileu: O dan rai amgylchiadau mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol er mwyn atal iddo barhau i gael ei brosesu lle nad oes cyfiawnhad dros ein bod yn parhau i’w gadw. Yr amgylchiadau sy’n fwyaf tebygol o fod yn berthnasol yw:
Nid yw hawl dileu yn berthnasol os ydym yn prosesu eich data personol:
Os ydych am ofyn i ni ddileu eich data personol gallwch wneud hynny gan ddefnyddio’r manylion cyswllt yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Yr Hawl i Gyfyngu ar Brosesu: O dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich data personol. Gallai hyn fod mewn achosion tebyg i’r canlynol:
Gallwch ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich data personol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Yr Hawl i Gludadwyedd Data: Mae gennych hawl i gael gafael ar ac ailddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at eich dibenion eich hun, gan ei throsglwyddo o un amgylchedd i un arall. Mae’r hawl hwn ond yn berthnasol i ddata personol a ddarperir gan unigolyn, lle bo’r prosesu yn seiliedig ar eu cydsyniad neu ar gyfer cyflawni contract a phan fo’r prosesu hwnnw yn cael ei wneud drwy ddull awtomataidd. Os hoffech drafod yr hawl hwn, gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Yr Hawl i Wrthwynebu: mae gennych yr hawl i wrthwynebu’r canlynol:
Rhaid i wrthwynebiad fod ar sail sy’n ymwneud â’ch sefyllfa benodol. Os ydych chi eisiau arfer eich hawl i wrthwynebu gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Hawliau’n ymwneud â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd: Mae gennych hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad pan ei fod wedi’i seilio dim ond ar brosesu awtomataidd (yn cynnwys proffilio) ac sy’n creu effaith gyfreithiol neu o arwyddocâd tebyg arnoch chi.
Nid yw’r hawl hwn yn berthnasol os yw’r penderfyniad
Rydym yn annhebygol o wneud penderfyniad awtomataidd oherwydd bod ein prosesau yn cynnwys rhyw fath o ryngweithio a gwneud penderfyniadau dynol.
Proffilio yw unrhyw ffurf ar brosesu data personol yn awtomataidd wedi’i fwriadu i werthuso agweddau personol penodol amdanoch er mwyn darogan pethau megis eich ymddygiad, diddordebau, symudiadau neu berfformiad yn y gwaith. Nid ydym yn cynnal unrhyw broffilio awtomataidd ar hyn o bryd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio awtomataidd gallwch eu gofyn drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Defnyddir cwcis ar y wefan hon i wella profiad y defnyddiwr ac ar gyfer swyddogaethau hanfodol; ni chânt eu defnyddio at ddibenion adnabod.
Dysgu rhagor am sut rydym yn rheoli cwcis.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy’n rheoleiddio prosesu data personol. Gallwch gwyno wrth yr ICO os ydych yn anfodlon gyda sut yr ydym wedi prosesu eich data personol.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif Llinell Gymorth: 0303 123 1113
Gallwch gwyno ar wefan ICO
Gwnaethom ddiweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 2 Chwefror 2022. Rydym yn adolygu’r polisi preifatrwydd hwn yn rheolaidd ac yn ei ddiweddaru os bydd unrhyw wybodaeth ynddo yn newid.