Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau i bobl sydd â diddordeb mewn bod yn Swyddog Heddlu, Swyddog Cymorth Cymunedol, Cwnstabl Gwirfoddol neu aelod o Staff yr Heddlu.
Ymunwch â ni i ddysgu mwy am y swyddi sydd ar gael a sut beth yw gweithio i Heddlu Gwent. Cewch gyfle i gwrdd â swyddogion a staff sy’n gwasanaethu, clywed am eu profiadau a dysgu am y gwahanol yrfaoedd sydd ar gael i chi.
10:00yb - 1:00yh, Sad 12 Medi 2026
Pencadlys Heddlu Gwent, NP44 3FW
Clicwch yma i gofrestru.
Bydd y digwyddiad yma’n gyfle gwych i chi gael golwg ar y gwahanol swyddi rydyn ni’n eu cynnig yma yn Heddlu Gwent. Mae gan Heddlu Gwent lwythi o gyfleoedd cyffrous, gyda swyddi gwag newydd bob wythnos ac ymgyrchoedd recriwtio swyddogion sawl gwaith y flwyddyn.
Os ydych chi’n chwilio am waith fel swyddog heddlu mewn lifrai, ditectif, aelod o staff, neu os ydych am roi cymorth i ni fel gwirfoddolwr, bydd hwn yn gyfle gwych i chi siarad â swyddogion a staff o wahanol rolau am yr hyn maen nhw’n ei wneud a dysgu mwy cyn gwneud cais i ymuno â.
Ochr yn ochr â’n digwyddiadau mewnol mae ein tîm yn mynd i nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan ddarparwyr allanol hefyd, gan gynnwys ysgolion, colegau a ffeiriau swyddi ledled Gwent.
Dewch draw i gael sgwrs ac i gael rhagor o wybodaeth.
I gael manylion am bob digwyddiad isod, cysylltwch â’r darparwyr allanol.
10:00yb - 2:00yh, Iau 24 Medi 2026
Glan yr Afon Casnewydd
Byddwn yma i ddangos yr amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael yn Heddlu Gwent. O swyddogion heddlu a swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu i amryw o swyddi staff yr heddlu, mae cyfleoedd i bawb o bob cefndir. Galwch heibio i’n gweld ni yn y digwyddiad yma i ddysgu mwy am ein swyddi, hyfforddiant, llwybrau gyrfa a sut beth yw gweithio i Heddlu Gwent.