Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydych chi'n chwilio am yrfa newydd, gyffrous ac amrywiol lle mae pob diwrnod yn wahanol? Os felly, gallai swydd fel Swyddog Heddlu fod yn ddelfrydol i chi!
Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig ac ymroddedig a fydd yn ymrwymo i’n gweledigaeth, y bobl orau i ddeall ac ymateb i anghenion y gymuned, gan amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, dal troseddwyr a chadw’r cyhoedd yn ddiogel gan lynu wrth God Moeseg plismona.
Rydym ni wedi ymrwymo i fod â gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Wrth wneud hyn, rydym yn annog unigolion o’n cymunedau anabl ac LHDT i ystyried cyfleoedd yn y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm gweithredu cadarnhaol.
Dysgwch fwy am Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu gan y Coleg Plismona neu o'r opsiynau isod.
Isafswm gofyniad cymhwyster – Dim
Mae'r PCEP yn gyfle newydd a chyffrous os ydych yn ystyried gyrfa ym maes plismona. Byddwch yn gallu ymuno â rheng flaen plismona tra hefyd yn dysgu'r sgiliau a'r arferion hanfodol i ddod yn swyddog heddlu cwbl gymwysedig.
Mae'r rhaglen 2 flynedd hon wedi'i chynllunio i roi cyfuniad o brofiad ymarferol 'yn y gwaith' a dysgu yn yr ystafell ddosbarth a fydd yn eich arfogi â'r wybodaeth a'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i gyflawni'r heriau plismona cymhleth sy'n ein hwynebu heddiw, wrth gyfrannu at ddiwylliant plismona cadarnhaol.
Rydym wedi partneru gyda Phrifysgol De Cymru i ddarparu'r PCEP. Ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf 2 flynedd yn llwyddiannus, byddwch yn ennill cymhwyster cydnabyddedig ac yn cael cyfle i wneud cais i ymgymryd â thrydedd flwyddyn ddewisol o astudio i ennill gradd mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol a fydd yn cael ei ariannu'n llawn gan Heddlu Gwent.
Nid oes isafswm ar gyfer gofynion cymwysterau i ymuno drwy'r PCEP. Os oes gennych gymhwyster lefel 3 neu uwch, gellir ei uwchlwytho ar adeg y cais fel eich gofyniad addysg ar gyfer y llwybr hwn.
Os nad oes gennych isafswm gymhwyster lefel 3, gofynnir i chi gwblhau asesiad ar-lein yn seiliedig ar gymhwysedd Saesneg a Mathemateg. Bydd cwblhau'r asesiad ar-lein hwn yn llwyddiannus yn gymwys fel eich gofyniad addysg ar gyfer y llwybr hwn.
Mae Gradd Plismona Proffesiynol mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol ar gyfer pobl sy'n dewis cwblhau eu gradd mewn Sefydliad Addysg Uwch o'u dewis, ar eu cost eu hunain. Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu recriwtio trwy'r llwybr hwn yn derbyn hyfforddiant academaidd ac ymarferol hefyd i ddatblygu sgiliau penodol, a byddant yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf asesu cenedlaethol a chymhwysedd gweithredol.
Cymwysterau gofynnol - Dim
Mae'r Rhaglen Fynediad Ditectif Gwnstabl yn para am ddwy flynedd ac mae'n cyfuno dysgu ymarferol a chymhwysedd gweithredol yn y gwaith gyda dysgu academaidd. Mae'r rhaglen yn cynnig llwybr carlam i swyddogion newydd trwy fodiwlau plismona craidd cyn dechrau hyfforddiant ymchwiliol uwch a symud i rôl Ymchwilydd dan Hyfforddiant.
Bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau'r Rhaglen Proffesiynoli Ymchwiliadau (PIP2) sy'n gofyn bod Ymchwilwyr dan Hyfforddiant yn llwyddo yn yr Arholiad Ymchwilwyr Cenedlaethol sy'n arholiad wedi'i ddylunio i sicrhau bod gan unigolion yr wybodaeth a dealltwriaeth gywir o'r gyfraith a gweithdrefnau perthnasol, a sut i’w defnyddio, i berfformio'n effeithiol fel ditectif.
Rydym yn darparu'r rhaglen DCEP mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru. Ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf o ddwy flynedd yn llwyddiannus, byddwch yn ennill cymhwyster cydnabyddedig ac yn cael cyfle i ymgeisio i astudio am drydedd flwyddyn opsiynol er mwyn ennill gradd mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol a fydd yn cael ei ariannu'n llawn gan Heddlu Gwent.
Nid oes cymhwyster gofynnol ar gyfer ymuno trwy'r rhaglen DCEP. Os oes gennych chi gymhwyster lefel 3 neu uwch, gellir uwch lwytho hwn ar y pwynt ymgeisio fel eich gofyniad addysgol ar gyfer y llwybr yma.
Os nad oes gennych chi gymhwyster lefel 3 sylfaenol bydd gofyn i chi gwblhau asesiad seiliedig ar gymhwysedd ar-lein yn Saesneg a Mathemateg. Bydd cwblhau'r asesiad ar-lein yma'n llwyddiannus yn cyfrif fel eich gofyniad addysgol ar gyfer y llwybr yma.
Wrth ymuno â Heddlu Gwent yn gwnstabl heddlu rydych yn dechrau ar daith gyffrous a fydd yn rhoi boddhad a allai eich tywys i unrhyw le.
Nid bod yn y rheng flaen yn unig yw plismona. Ar ôl ichi gwblhau eich cyfnod prawf a dod yn gwnstabl llawn mae amrywiaeth o swyddi gwahanol y gallwch fynd ymlaen i’w cyflawni, pob un â chyflog cystadleuol a manteision ardderchog.
Pa un ai trafod cŵn, diogelu’r cyhoedd neu’r Adran Ymchwilio i Droseddau (CID), bydd ystod o gyfleoedd gyrfa posibl yn eich disgwyl.
Oedran
I wneud cais i fod yn gwnstabl heddlu, bydd angen i chi fod yn 17 oed neu'n hŷn (dim ond pan fyddwch yn 18 oed y cewch eich penodi).
Tatŵau
Mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr a thatŵau yn gymwys i gael eu penodi. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn unigol, gan ystyried nifer, natur, maint, amlygrwydd, ymddangosiad a lleoliad y tatŵau. Rhaid i datŵau beidio â bod yn sarhaus i gydweithwyr neu aelodau'r cyhoedd na thanseilio urddas eich rôl yn yr Heddlu. Mae tatŵau ar y gwddf, wyneb neu ddwylo yn dal i gael eu hystyried yn annerbyniol ond gellir eu hystyried dan rai amgylchiadau, yn dibynnu ar eu maint, natur ac amlygrwydd. Os bydd ymgeiswyr yn dewis cael tatŵau ychwanegol yn ystod y broses recriwtio, ar ôl pasio gwiriadau cymhwysedd, y nhw wedyn fydd yn gyfrifol am hysbysu’r adran Adnoddau Dynol a darparu ffotograffau priodol y bydd angen eu gwirio.
Dinasyddiaeth/Preswyliad
Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, neu'n ddinesydd gwlad sy'n aelod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA), y Gymanwlad neu’n wladolyn tramor sy’n byw yn y DU heb gyfyngiadau. Rhaid i chi fod wedi byw yn y DU am dair blynedd yn olynol yn union cyn gwneud cais. Mae hyn er mwyn bodloni'r gofyniad i wirio cefndir pob ymgeisydd yn gyfartal ac ar hyn o bryd nid oes gan wasanaeth Heddlu'r DU unrhyw fodd o hwyluso gwiriadau cefndir tramor i'r graddau sy'n ofynnol gan bobl sydd wedi bod yn byw yn y DU. Ni fydd ymgeiswyr na ellir gwirio eu cefndir yn gallu cael eu penodi.
Rhybuddion ac Euogfarnau
Mae'n bosibl y byddwch yn dal yn gymwys i ymuno â'r gwasanaeth heddlu os oes gennych chi fân euogfarnau/rhybuddion, ond mae rhai troseddau ac amodau a fydd yn eich gwneud chi'n anghymwys. RHAID i chi ddatgan pob euogfarn ar gyfer troseddau yn y gorffennol, rhybuddion ffurfiol (gan gynnwys rhai yn ystod eich ieuenctid) ac unrhyw rwymo a orfodwyd gan y llysoedd. Dylech gynnwys pob euogfarn am droseddau traffig hefyd. Oherwydd natur plismona, mae'n hollbwysig ein bod yn cynnal gwiriadau cefndir trwyadl ar ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallant ymuno â'r rhaglen.
Statws Ariannol
Bydd sefyllfa ariannol ymgeiswyr yn cael ei gwirio. Cynhelir y gwiriadau hyn oherwydd gall Cwnstabliaid Heddlu gael gafael ar wybodaeth freintiedig, a allai eu gwneud yn agored i lwgrwobrwyo. Bydd ymgeiswyr sydd â dyfarniadau Llys Sirol nad oes penderfyniad arnynt eto, sydd wedi eu cofrestru’n fethdalwyr gyda dyledion nad ydynt wedi eu talu, yn cael eu gwrthod. Os oes gennych chi unrhyw ddyledion methdalwr sydd wedi eu clirio bydd angen i chi ddarparu Tystysgrif Bodlonrwydd. Ni fydd ymgeiswyr sy'n destun Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA) cyfredol yn cael eu hystyried.
Iechyd
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn iach yn feddyliol ac yn gorfforol i ymdopi â phwysau a galwadau'r swydd. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus sy’n cael cynnig swydd amodol lenwi holiadur meddygol a chael archwiliad meddygol cyn cael eu penodi, a fydd hefyd yn cynnwys prawf golwg a gwiriad BMI (Mynegai Màs y Corff).
Mae cylchlythyr 59/2004 cyfredol y Swyddfa Gartref yn nodi bod safonau BMI swyddogion heddlu rhwng 18 a 30. Os nad yw ymgeiswyr yn cyrraedd y safon hon, efallai y bydd eu cais yn cael ei ohirio a/neu ni fyddant yn cael eu penodi.
Ni fydd ymgeiswyr i fod yn swyddogion heddlu gyda BMI dros 32 yn cael eu hystyried yn ffit oni bai bod canran braster eu corff yn llai na 30% i ddynion neu 36% i fenywod. Os oes gennych chi anabledd, byddwn yn gwneud addasiadau lle y bo hynny'n rhesymol.
Ymlyniad Gwleidyddol
Mae gan Heddlu Gwent bolisi o wahardd unrhyw un o’i swyddogion neu ei staff rhag ymaelodi â Phlaid Genedlaethol Prydain (BNP), neu sefydliadau tebyg, y gall eu nodau, eu hamcanion neu eu datganiadau fod yn groes i’r ddyletswydd i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Os ydych yn aelod, neu wedi bod yn aelod o’r BNP neu gorff tebyg, bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Bydd angen trwydded yrru lawn y DU arnoch cyn dechrau gweithio gyda Heddlu Gwent.
Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog ar 23 Mawrth 2020 a chanllawiau ychwanegol wedi'u cyflwyno er mwyn cadw'n cymunedau'n ddiogel, mae holl weithgarwch SEARCH a gweithgarwch Day One wedi'u gohirio tan 2021. Wrth i sefyllfa Covid ddatblygu, daeth yn eglur y byddai’n rhaid cael atebion digidol ar gyfer recriwtio i’r heddlu.
Mewn ymateb i hyn, mae'r Coleg Plismona wedi datblygu proses asesu ar-lein sy'n galluogi asesu effeithiol o'r cymwyseddau a'r gwerthoedd angenrheidiol sy'n bwysig i gwnstabliaid heddlu, ac yn bodloni'r safonau presennol ar gyfer asesu recriwtiaid newydd.
Er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch i ymgeiswyr, bydd y broses asesu ar-lein yn parhau drwy gydol 2020. Yn rhan o fonitro a gwerthuso parhaus, bydd y Coleg yn parhau i adolygu profiad yr ymgeisydd, asesydd a’r llu gyda’r bwriad i wella'r broses yn ystod y cyfnod hwn.
Cynhelir adolygiad llawn yn ddiweddarach yn y flwyddyn a chaiff lluoedd wybod ymlaen llaw os bydd canolfannau asesu wyneb yn wyneb yn cael eu hailgyflwyno.
Gwnaiff y ganolfan asesu ar-lein alluogi recriwtio cyflym heb gyswllt wyneb yn wyneb tra bydd angen mesurau cadw pellter cymdeithasol. Bydd hefyd yn galluogi asesu ar-lein diogel i fod yn rhan o daith effeithlon ac addas i ddefnyddwyr i ymgeiswyr yn y dyfodol. Mae'r broses yn ymgorffori dull gweithredu dethol a wnaiff lwyddo i nodi'r rhai mwyaf addas ar gyfer swydd fel swyddog heddlu.
Mae'r broses asesu ar-lein yn cynnwys dull gweithredu tri cham wedi'i lunio ar gyfer asesu a recriwtio cwnstabliaid heddlu'n effeithlon. Y tri cham yw:
Cam 1 – Prawf synnwyr sefyllfaol (SJT)
Gan eich bod yn ymgeisydd ar gyfer Heddlu Gwent NI FYDD yn rhaid ichi gwblhau Cam 1 gan y byddech wedi pasio’r prawf hwn yn rhan o’r broses ymgeisio.
Cam 2 – Cyfweliad ar sail cymhwysedd
Gofynnir cyfres o gwestiynau ynghylch sut yr ydych wedi ymdrin â sefyllfaoedd penodol yn y gorffennol. Dyma eich cyfle i roi rhai enghreifftiau o'r prif gymwyseddau a gwerthoedd sy'n bwysig ar gyfer cwnstabliaid heddlu. (Cewch ddefnyddio enghreifftiau o'ch gwaith a'ch bywyd personol).
Cam 3 – Asesiad ysgrifenedig ac ymarfer briffio
Mae hwn yn cynnwys dau asesiad. Nodwch y gallwch gwblhau asesiadau 3a a 3b ar wahân.
Cam 3a – Asesiad ysgrifenedig
Yn yr ymarfer hwn, byddwch yn chwarae rhan cwnstabl heddlu a bydd yn rhaid i chi gwblhau tasg ysgrifenedig ar frys ar gyfer eich rheolwr llinell. Byddwch yn cael pedair eitem o wybodaeth i'ch cynorthwyo gyda'r dasg hon.
Cam 3b – Ymarfer briffio
Yn yr ymarfer hwn, byddwch yn chwarae rhan cwnstabl heddlu a bydd gennych gyfrifoldeb dros ymdrin â rhai materion a gyflwynir i chi. Gofynnir i chi roi ymateb i nifer o gwestiynau sy’n gysylltiedig â’r mater hwn. Cewch ddeunyddiau paratoi er mwyn ystyried eich ateb.
Pa dechnoleg a fyddai ei hangen?
Gallwch ddefnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur, yn ogystal â dyfeisiau symudol i gwblhau eich asesiadau a'ch cyfweliad. Os ydych yn bwriadu defnyddio dyfais symudol, lawrlwythwch 'Cyfweliad Launchpad' o siop apiau eich dyfais.
Mae Microsoft Edge, Mozilla Firefox, Google Chrome, porwyr yn cael eu cefnogi a'u hargymell, er y gall eraill weithio hefyd.
Bydd angen siaradwyr neu glustffonau arnoch i glywed cyfarwyddiadau, a chamera a meicroffon gwe-gamera neu inbuilt, i recordio sain a fideo.
Mae'r broses gyfweld wedi'i chynllunio i gael darlun mwy cyflawn ohonoch chi fel unigolyn. Mae'n archwilio sut y gallai eich gwerthoedd chi a gwerthoedd Heddlu Gwent gyfateb.
Drwy gynnal y cyfweliad hwn rydym yn sicrhau eich bod yn gwneud y dewis gyrfa cywir ac felly bydd gennych bob cyfle i fod yn gwnstabl llwyddiannus o Heddlu Gwent.
Diben yr ail gyfweliad yw gwirio eich addasrwydd yn unol â'r gwerthoedd a'r ymddygiadau Plismona o fewn y Fframwaith gwerth cymwyseddau i ddod yn swyddog heddlu yn Heddlu Gwent.
Yn ystod y cyfweliad, byddwn yn gwirio eich dealltwriaeth o'r heddlu, eich profiad a'ch sgiliau blaenorol a'ch awydd i ddod yn Swyddog Heddlu a gwasanaethu'r gymuned.
Gofynnir pedwar cwestiwn i chi yn ystod y cyfweliad, ond efallai y cewch eich holi ymhellach i ganfod mwy o wybodaeth.
Efallai y byddwn yn gofyn am enghreifftiau penodol pan fyddwch wedi delio â sefyllfaoedd sy'n canolbwyntio ar eich profiad a'ch sgiliau.
Efallai y byddwn hefyd yn gofyn cwestiynau ymlaen i chi ynghylch sut y byddech yn delio â rhai amgylchiadau.
Efallai y byddwch am strwythuro eich ymateb yn unol â'r Model STAR:
Bydd y cyfweliad yn para tua 30 munud.
Cewch gyfle i ofyn cwestiynau ar ddiwedd y cyfweliad.
Ceisiwch ymlacio a bod yn chi eich hun yn ystod y cyfweliad, bod yn onest a dweud wrthym amdanoch eich hun.
Gwisgwch atodion busnes clyfar a chyrraedd ar amser ar gyfer eich slot cyfweliad.
Yn dilyn eich profion yn y ganolfan asesu, mae amryw o gamau mewnol y bydd gofyn i chi eu cwblhau’n llwyddiannus hefyd:
Prawf ffitrwydd
Profion cyffuriau a biometrig
Archwilio a geirdaon
Holiadur ac apwyntiad archwiliad iechyd
Weithiau gall y gwiriadau cyn penodi hyn gymryd rhwng tri a chwe mis. Byddwch yn ymwybodol bod yn rhaid i chi fynychu unrhyw apwyntiadau yn eich amser eich hun, gan gynnwys eich apwyntiad ffitio lifrai.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r holl wiriadau cyn cyflogi, byddwch yn symud i gam nesaf y broses.
Ar gyfer swyddi mewn lifrai, byddwch yn cael lle gyda’r garfan nesaf sydd ar gael ac yn cael apwyntiad i fesur a ffitio lifrai.
Mae ein llwybrau mynediad cyffrous a'r drefn academaidd sydd y tu ôl iddynt, yn golygu y bydd gwyliau blynyddol yn cael eu cyfyngu yn ystod 9 mis cyntaf eich cyfnod prawf. Ar ôl cael eich penodi, byddwch yn cael pythefnos i ffwrdd yn ystod eich 9 mis cyntaf o hyfforddiant. Yn anffodus, oherwydd gofynion y llu sy'n newid yn gyson, ni allwn ddarparu dyddiadau derbyn / absenoldeb ymlaen llaw.
Bydd 38 wythnos gyntaf hyfforddiant yr heddlu yn gymysgedd o ddysgu ymarferol yn yr ystafell ddosbarth. Bydd swyddogion heddlu a hyfforddwyr staff yr heddlu yn cyflwyno'r cwrs mewn sefydliad hyfforddi heddlu yng Nghwmbrân.
Mae hwn yn gwrs dibreswyl sydd wedi'i gynllunio i helpu i wneud y mwyaf o botensial dysgu yn academaidd ac yn ymarferol a dechrau datblygu sgiliau plismona gweithredol. Mae'r maes llafur ystafell ddosbarth yn seiliedig ar y cwricwlwm a ddatblygwyd gan y Coleg Plismona, sy'n cwmpasu'r holl feysydd sydd eu hangen ar gyfer rôl Cwnstabl yr Heddlu. Bydd pecynnau E-ddysgu amrywiol ochr yn ochr â ffitrwydd, cymorth cyntaf a hyfforddiant diogelwch personol hefyd yn cael eu cynnal.
Ar wahanol gamau o'r cwrs, bydd angen i gwnstabliaid myfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth trwy brosesau asesu anffurfiol a ffurfiol. Bydd hyn yn cynnwys arholiadau amlddewis, aseiniadau ac asesiadau ymarferol. Disgwylir i gwnstabliaid arddangos yr ymddygiad a'r agwedd briodol bob amser yn ystod eu hyfforddiant yn unol â Chod Moeseg gwasanaeth yr heddlu.
Ar ôl cwblhau hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth yn llwyddiannus, bydd swyddogion yn dechrau cyfnod o diwtora cymwys mewn gorsaf heddlu weithredol. Bydd cwblhau'r cam tiwtor yn llwyddiannus yn caniatáu i gwnstabliaid sy’n fyfyrwyr gael eu rhoi ar batrôl annibynnol.
Bydd gofyn i recriwtiaid ar y ddwy raglen gwblhau portffolio cymhwysedd galwedigaethol yn ystod eu cyfnod prawf a bydd gofyn iddynt gwblhau lefel o astudiaeth breifat, y tu allan i oriau gwaith.
Byddwch yn ymwybodol, wrth gael eich penodi ac yn ystod eich gwasanaeth, y gallech gael eich postio i unrhyw leoliad yn Heddlu Gwent yn seiliedig ar angen gweithredol.
Dylai ymgeiswyr hefyd fod yn ymwybodol, er y bydd ganddynt hawl i rywfaint o amser astudio gwarchodedig yn y gweithle i gefnogi eu datblygiad proffesiynol, mae hefyd yn debygol y bydd angen i rai myfyrwyr ymgymryd ag astudiaeth breifat, y tu allan i oriau gwaith.
Mae'n ofynnol i bob dysgwr gwblhau'r cymhwyster angenrheidiol yn llwyddiannus. Sylwch y bydd "amser dysgu gwarchodedig" yn amodol ar angen sefydliadol.
Pan fyddwch yn ymuno â Heddlu Gwent yn swyddog heddlu, byddwn yn cynnig amrywiaeth eang o fuddion i chi:
Cyflog
Gwyliau blynyddol
Gwyliau banc
Byddwch yn mwynhau manteision cynllun pensiwn cyfrannol, sy’n Gynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa (CARE).
Caiff ein hamcanion cydraddoldeb ac amrywiaeth eu gorfodi drwy Fwrdd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sefydledig. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau ein bod bob amser yn trin ein cydweithwyr a’r cyhoedd â thegwch, urddas a pharch.
Darperir ein rhaglen cymorth i weithwyr gan CareFirst ac am ddim i bawb ac mae ar gael 24 awr y dydd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhaglen yn darparu cymorth cyfrinachol ar gyfer problemau a all effeithio ar berfformiad, iechyd, a lles meddyliol ac emosiynol.
Mae gennym ni Uned Iechyd a Lles Galwedigaethol i’ch helpu i gynnal eich iechyd corfforol a seicolegol wrth weithio. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol ac yn cynnwys gwasanaeth cwnsela.
Nod y tîm Iechyd Galwedigaethol yw cefnogi presenoldeb ac effeithiolrwydd drwy weithio’n rhagweithiol i leihau risgiau iechyd ac annog pobl i fod yn gyfrifol am eu hiechyd, eu ffitrwydd a’u lles eu hunain. Rydych chi hefyd yn gymwys i gael prawf llygaid am ddim.
Mae llawer o dimau chwaraeon i chi ymuno â nhw, gan gynnwys rhedeg, hoci, pysgota a phêl-droed. Mae cyfleusterau campfa am ddim hefyd mewn nifer o’n safleoedd.
Mae gennym ni bolisi absenoldeb mamolaeth alwedigaethol llawn ar gael i holl weithwyr Heddlu Gwent. Cyfanswm o 52 wythnos o amser mamolaeth: 18 wythnos ar gyflog llawn, 21 wythnos o dâl mamolaeth statudol, a 13 wythnos o ddim cyflog. Mae hyn yn amodol ar hyd gwasanaeth. Mae gennym ni hefyd bolisi absenoldeb ar gyfer mabwysiadu.
Mae amrywiaeth o gymdeithasau, rhwydweithiau a grwpiau sy’n cynorthwyo ein gweithlu ac mae gan Heddlu Gwent ystod o fentrau a chynlluniau i helpu cyd-weithwyr i ddatblygu.
Mae ein rhwydweithiau staff yn cynnig cymorth a chyfeillgarwch i’n swyddogion, y staff a’r gymuned leol. Maen nhw’n gweithio i gynorthwyo a chynghori cydweithwyr yn genedlaethol ac rydym yn falch o’r rhan weithredol sydd ganddyn nhw o ran dylanwadu ar blismona ledled y DU.
Mae’r rhwydweithiau a’r cymdeithasau yn cynnwys:
Dim ond Swyddogion yr Heddlu all ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu, os ydych chi’n penderfynu ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu, gallwch ddewis ymuno â chynllun yswiriant bywyd a’r dyfarniadau yn daladwy i’ch priod neu’ch partner, ac i unrhyw ddibynyddion. Yn ogystal â gallu cael yswiriant salwch ac afiechyd hanfodol, gallwch gael yswiriant, ar gost ffafriol, i dalu am unrhyw dreuliau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’ch swydd, a gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfleusterau adsefydlu gorau.
I hybu teithiau iachus i’r gwaith, mae Heddlu Gwent a Cycle Solutions wedi gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cyfle i staff a swyddogion gael gostyngiad mawr oddi ar bris beic ac offer diogelwch, gan wasgaru’r gost dros 18 mis.
Gostyngiadau sefydliadol a ffordd o fyw gan gynnwys aelodaeth i gampfeydd (yn ogystal â champfeydd ar y safle), bwytai, prydau parod, teithio, cynhyrchion ariannol, cynllun gofal llygaid a mwy.
Cynigir hyfforddiant parhaus, arweiniad a chefnogaeth er mwyn cynorthwyo datblygiad personol a phroffesiynol i swyddogion heddlu. Os oes awydd camu ymlaen mewn gyrfa, caiff unigolion gymorth i symud drwy’r rhengoedd i gyrraedd swyddi uwch yn y llu.
Ein strwythur rhengoedd:
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a X i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.