Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddog cefnogi cymuned yr heddlu yn ennyn hyder ar strydoedd Gwent ac yn gyswllt hanfodol yn y gymuned.
Maent yn ymdrechu i wneud ein cymunedau’n fwy diogel ac yn gryfach drwy gyflawni un o’r swyddogaethau mwyaf heriol ym maes plismona modern.
Ni all swyddog cefnogi cymuned yr heddlu arestio pobl ac nid ydynt yn cario cyffion dwylo nac eitemau eraill y mae swyddogion yr heddlu yn eu cario. Maent yn dibynnu ar eu gallu i ddeall a chyfathrebu â phobl yn rhai o’r sefyllfaoedd anoddaf.
Rydym ni wedi ymrwymo i fod â gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Wrth wneud hyn, rydym yn annog unigolion o’n cymunedau anabl ac LHDT i ystyried cyfleoedd yn y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm gweithredu cadarnhaol.
Rhowch eich hun yn esgidiau swyddog cefnogi cymuned yr heddlu. Meddyliwch sut y byddech yn ymdrin â gwahanol sefyllfaoedd. Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth grŵp o bobl feddw sy’n achosi niwsans ar y stryd? Sut fyddech chi’n siarad â chwpl oedrannus y mae rhywun wedi torri i mewn i’w tŷ yn ddiweddar? Sut fyddech chi’n mynd at grŵp o bobl ifanc ar feiciau modur oddi ar y ffordd?
Mae swyddog cefnogi cymuned yr heddlu yn gweithio’n rhan o dimau plismona bro i helpu i ddatrys materion lleol drwy fod yn bresenoldeb cymunedol, cwrdd â phobl a chynnig cyngor a chymorth i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y gymdogaeth.
Mae swyddog cefnogi cymuned yr heddlu yn ymdrin â mân droseddau ac yn cefnogi plismona rheng flaen. Nid ydynt yn arestio pobl, yn cyfweld, yn ymdrin â charcharorion nac yn ymchwilio i droseddau difrifol.
Fel swyddog cefnogi cymuned yr heddlu gallwch ddisgwyl:
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, diwylliant, crefydd, oedran, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol. Fodd bynnag, mae rhai amodau cymhwysedd y bydd angen i bob ymgeisydd eu bodloni, felly mae angen i chi wirio eich bod yn bodloni ein gofynion cyn cyflwyno cais.
Nid yw tatŵs sy’n sarhaus, yn ddi-chwaeth, yn amlwg neu’n niferus yn dderbyniol. Rhowch luniau a mesuriadau o unrhyw datŵs ynghyd â’ch cais.
Pan fyddwch yn ymuno â Heddlu Gwent fel swyddog cymorth cymunedol, byddwn yn sicrhau bod ystod eang o fuddion ar gael i chi:
Gall cyflogeion ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, sy’n gynllun pensiwn cyfrannol.
Ewch i Gynllun Pensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen) am ragor o wybodaeth.
Yn dilyn eich profion yn y ganolfan asesu, mae amryw o gamau mewnol y bydd gofyn i chi eu cwblhau’n llwyddiannus hefyd:
Prawf ffitrwydd
Profion cyffuriau a biometrig
Archwilio a geirdaon
Holiadur ac apwyntiad archwiliad iechyd
Weithiau gall y gwiriadau cyn penodi hyn gymryd rhwng tri a chwe mis. Byddwch yn ymwybodol bod yn rhaid i chi fynychu unrhyw apwyntiadau yn eich amser eich hun, gan gynnwys eich apwyntiad ffitio lifrai.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r holl wiriadau cyn cyflogi, byddwch yn symud i gam nesaf y broses.
Ar gyfer swyddi mewn lifrai, byddwch yn cael lle gyda’r garfan nesaf sydd ar gael ac yn cael apwyntiad i fesur a ffitio lifrai.
Caiff ein hamcanion cydraddoldeb ac amrywiaeth eu gorfodi drwy Fwrdd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sefydledig. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau ein bod bob amser yn trin ein cydweithwyr a’r cyhoedd â thegwch, urddas a pharch.
Darperir ein rhaglen cymorth i weithwyr gan CareFirst ac am ddim i bawb ac mae ar gael 24 awr y dydd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhaglen yn darparu cymorth cyfrinachol ar gyfer problemau a all effeithio ar berfformiad, iechyd, a lles meddyliol ac emosiynol.
Mae gennym ni Uned Iechyd a Lles Galwedigaethol i’ch helpu i gynnal eich iechyd corfforol a seicolegol wrth weithio. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol ac yn cynnwys gwasanaeth cwnsela.
Nod y tîm Iechyd Galwedigaethol yw cefnogi presenoldeb ac effeithiolrwydd drwy weithio’n rhagweithiol i leihau risgiau iechyd ac annog pobl i fod yn gyfrifol am eu hiechyd, eu ffitrwydd a’u lles eu hunain. Rydych chi hefyd yn gymwys i gael prawf llygaid am ddim.
Mae llawer o dimau chwaraeon i chi ymuno â nhw, gan gynnwys rhedeg, hoci, pysgota a phêl-droed. Mae cyfleusterau campfa am ddim hefyd mewn nifer o’n safleoedd.
Mae gennym ni bolisi absenoldeb mamolaeth alwedigaethol llawn ar gael i holl weithwyr Heddlu Gwent. Cyfanswm o 52 wythnos o amser mamolaeth: 18 wythnos ar gyflog llawn, 21 wythnos o dâl mamolaeth statudol, a 13 wythnos o ddim cyflog. Mae hyn yn amodol ar hyd gwasanaeth. Mae gennym ni hefyd bolisi absenoldeb ar gyfer mabwysiadu.
Mae amrywiaeth o gymdeithasau, rhwydweithiau a grwpiau sy’n cynorthwyo ein gweithlu ac mae gan Heddlu Gwent ystod o fentrau a chynlluniau i helpu cyd-weithwyr i ddatblygu.
Mae ein rhwydweithiau staff yn cynnig cymorth a chyfeillgarwch i’n swyddogion, y staff a’r gymuned leol. Maen nhw’n gweithio i gynorthwyo a chynghori cydweithwyr yn genedlaethol ac rydym yn falch o’r rhan weithredol sydd ganddyn nhw o ran dylanwadu ar blismona ledled y DU.
Mae’r rhwydweithiau a’r cymdeithasau yn cynnwys:
Dim ond Swyddogion yr Heddlu all ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu, os ydych chi’n penderfynu ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu, gallwch ddewis ymuno â chynllun yswiriant bywyd a’r dyfarniadau yn daladwy i’ch priod neu’ch partner, ac i unrhyw ddibynyddion. Yn ogystal â gallu cael yswiriant salwch ac afiechyd hanfodol, gallwch gael yswiriant, ar gost ffafriol, i dalu am unrhyw dreuliau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’ch swydd, a gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfleusterau adsefydlu gorau.
I hybu teithiau iachus i’r gwaith, mae Heddlu Gwent a Cycle Solutions wedi gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cyfle i staff a swyddogion gael gostyngiad mawr oddi ar bris beic ac offer diogelwch, gan wasgaru’r gost dros 18 mis.
Gostyngiadau sefydliadol a ffordd o fyw gan gynnwys aelodaeth i gampfeydd (yn ogystal â champfeydd ar y safle), bwytai, prydau parod, teithio, cynhyrchion ariannol, cynllun gofal llygaid a mwy.
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a X i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.