Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Efallai bod gennych yrfa yr ydych yn dwlu arni eisoes, ac eto yn dal i chwilio am her neu gyfle i ddatblygu sgiliau newydd. Gallwn ddarparu’r cyfle hwn os oes gennych rywfaint o amser rhydd i’w gynnig. Os gallwch ymrwymo i 16 awr y mis a pheidio â chynhyrfu o dan bwysau, hoffem glywed gennych.
Fel swyddogion heddlu gwirfoddol, mae gan gwnstabliaid arbennig holl rymoedd, lifrai ac offer yr heddlu, ac maent yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion heddlu amser llawn a Swyddogion Cymorth Cymunedol i gadw Gwent yn ddiogel.
Rydym ni wedi ymrwymo i fod â gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Wrth wneud hyn, rydym yn annog unigolion o’n cymunedau anabl ac LHDT i ystyried cyfleoedd yn y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm gweithredu cadarnhaol.
Daw gwirfoddolwyr ar gyfer y Gwnstabliaeth Arbennig o amrywiaeth eang o gefndiroedd a chymunedau. Efallai eich bod gartref, yn gofalu am deulu, neu’n dilyn gyrfa mewn diwydiant gwahanol iawn. Mae’r amrywiaeth o brofiad sydd gan y Gwnstabliaeth Arbennig yn cefnogi gwasanaeth yr heddlu a’i nod yw cynrychioli’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
Fel cwnstabl arbennig, byddwch yn ymdrin ag amrywiaeth o ddigwyddiadau. Bydd adegau pan gewch brofiad o wrthdaro; byddwch yn arestio pobl dan amheuaeth ac yn ymdrin â digwyddiadau trallodus. Byddwch yn gefn i bobl mewn angen ac yn gwneud gwahaniaeth gwerthfawr i gymuned Gwent. Byddwch yn derbyn pecyn hyfforddi cynhwysfawr a fydd yn rhoi ystod o wybodaeth a sgiliau i chi.
Mae cwnstabliaid arbennig yn cefnogi’r heddlu i fynd i’r afael â throsedd, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac i feithrin perthynas â chymunedau. Fel arfer maen nhw’n gwirfoddoli am ryw 16 awr y mis, a drefnir yn hyblyg yn ôl ymrwymiadau personol a gwaith.
Cefnogir cwnstabliaid arbennig gan dimau penodedig ym mhob heddlu, a fydd yn annog gwirfoddolwyr i gyflawni digon o oriau i sicrhau bod eu hyder, eu sgiliau a’u profiad yn tyfu.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, diwylliant, crefydd, oedran, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol. Fodd bynnag, mae rhai amodau cymhwysedd y bydd angen i bob ymgeisydd eu bodloni, felly mae angen i chi wirio eich bod yn bodloni ein gofynion cyn cyflwyno cais:
Nid yw cwnstabliaid arbennig yn cael tâl gan eu bod yn gweithio’n wirfoddol. Fodd bynnag, byddwch yn cael hawlio treuliau. Hefyd, byddwch yn derbyn:
Os byddwch yn llwyddiannus yn y broses recriwtio, gofynnir i chi fynychu rhaglen hyfforddi fodiwlaidd. Bydd hyn yn dechrau gyda hyfforddiant i ddysgu’r pethau sylfaenol. Ar ôl i chi lwyddo yn yr arholiad cyntaf cewch eich sefydlu yn gwnstabl arbennig. Yna byddwch yn gadael hyfforddiant am rai wythnosau i gyflawni dyletswyddau ochr yn ochr â mentor, gan gwblhau cynllun datblygu personol. Yna caiff y broses hon ei hailadrodd nes eich bod wedi llwyddo yn yr holl elfennau sy’n angenrheidiol i ddod yn gwnstabl arbennig.
Yn dilyn eich profion yn y ganolfan asesu, mae amryw o gamau mewnol y bydd gofyn i chi eu cwblhau’n llwyddiannus hefyd:
Prawf ffitrwydd
Profion cyffuriau a biometrig
Archwilio a geirdaon
Holiadur ac apwyntiad archwiliad iechyd
Weithiau gall y gwiriadau cyn penodi hyn gymryd rhwng tri a chwe mis. Byddwch yn ymwybodol bod yn rhaid i chi fynychu unrhyw apwyntiadau yn eich amser eich hun, gan gynnwys eich apwyntiad ffitio lifrai.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r holl wiriadau cyn cyflogi, byddwch yn symud i gam nesaf y broses.
Ar gyfer swyddi mewn lifrai, byddwch yn cael lle gyda’r garfan nesaf sydd ar gael ac yn cael apwyntiad i fesur a ffitio lifrai.
Caiff ein hamcanion cydraddoldeb ac amrywiaeth eu gorfodi drwy Fwrdd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sefydledig. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau ein bod bob amser yn trin ein cydweithwyr a’r cyhoedd â thegwch, urddas a pharch.
Darperir ein rhaglen cymorth i weithwyr gan CareFirst ac am ddim i bawb ac mae ar gael 24 awr y dydd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhaglen yn darparu cymorth cyfrinachol ar gyfer problemau a all effeithio ar berfformiad, iechyd, a lles meddyliol ac emosiynol.
Mae gennym ni Uned Iechyd a Lles Galwedigaethol i’ch helpu i gynnal eich iechyd corfforol a seicolegol wrth weithio. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol ac yn cynnwys gwasanaeth cwnsela.
Nod y tîm Iechyd Galwedigaethol yw cefnogi presenoldeb ac effeithiolrwydd drwy weithio’n rhagweithiol i leihau risgiau iechyd ac annog pobl i fod yn gyfrifol am eu hiechyd, eu ffitrwydd a’u lles eu hunain. Rydych chi hefyd yn gymwys i gael prawf llygaid am ddim.
Mae llawer o dimau chwaraeon i chi ymuno â nhw, gan gynnwys rhedeg, hoci, pysgota a phêl-droed. Mae cyfleusterau campfa am ddim hefyd mewn nifer o’n safleoedd.
Mae amrywiaeth o gymdeithasau, rhwydweithiau a grwpiau sy’n cynorthwyo ein gweithlu ac mae gan Heddlu Gwent ystod o fentrau a chynlluniau i helpu cyd-weithwyr i ddatblygu.
Mae ein rhwydweithiau staff yn cynnig cymorth a chyfeillgarwch i’n swyddogion, y staff a’r gymuned leol. Maen nhw’n gweithio i gynorthwyo a chynghori cydweithwyr yn genedlaethol ac rydym yn falch o’r rhan weithredol sydd ganddyn nhw o ran dylanwadu ar blismona ledled y DU.
Mae’r rhwydweithiau a’r cymdeithasau yn cynnwys:
Dim ond Swyddogion yr Heddlu all ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu, os ydych chi’n penderfynu ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu, gallwch ddewis ymuno â chynllun yswiriant bywyd a’r dyfarniadau yn daladwy i’ch priod neu’ch partner, ac i unrhyw ddibynyddion. Yn ogystal â gallu cael yswiriant salwch ac afiechyd hanfodol, gallwch gael yswiriant, ar gost ffafriol, i dalu am unrhyw dreuliau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’ch swydd, a gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfleusterau adsefydlu gorau.
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a X i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.