Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydych chi'n chwilio am ffyrdd i gefnogi'r gymuned leol a gwella eich gweithlu ar yr un pryd? Beth am ymuno â'r cynllun Plismona â Chymorth Cyflogwyr?
Mae'r fenter hon yn cysylltu cyflogwyr a'u gweithwyr gyda'r heddlu lleol, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, gwirfoddoli, a mathau eraill o gefnogaeth.
Rhaglen wedi'i chynllunio i gefnogi cyflogwyr sy'n cyflogi swyddogion heddlu neu aelodau o staff yr heddlu yw Plismona â Chymorth Cyflogwyr. Nod y rhaglen yw gwella rôl yr heddlu yn y gymuned gan sicrhau ar yr un pryd bod hawliau cyflogaeth a chyfrifoldebau personél yr heddlu'n cael eu cynnal. Mae cyflogwyr yn gallu cael mynediad at hyfforddiant ac arweiniad ar y gyfraith berthnasol yn ymwneud â chyflogaeth, rhwydweithiau cefnogi'r heddlu, ac adnoddau ategol i helpu i gynnal lles swyddogion a staff yr heddlu wrth iddyn nhw wasanaethu eu cymunedau.
Mae gweithio fel gwirfoddolwr i Heddlu Gwent yn gyfle unigryw i ennill profiad gwaith gwerthfawr, yn arbennig os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn gorfodi’r gyfraith. Fel gwirfoddolwr, byddwch yn gweld yn uniongyrchol sut mae'r heddlu'n gweithredu ac yn dysgu am rolau a swyddogaethau gwahanol swyddogion.
Mae gwirfoddoli gyda Heddlu Gwent yn rhoi cyfle i gyfrannu'n ystyrlon at y gymuned hefyd. Byddwch yn gweithio i helpu i gadw eich cymuned yn ddiogel a byddwch yn rhan hanfodol o'r tîm sy'n gweithio i wneud argraff gadarnhaol ar fywydau ei bobl.
Mae gweithio fel gwirfoddolwr gyda'r heddlu'n cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Byddwch yn dysgu sgiliau pwysig fel cyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau ac arweinyddiaeth a fydd yn ddefnyddiol mewn gwahanol agweddau ar fywyd.
Mae gwirfoddoli hefyd yn cynnig cyfle i feithrin cydberthnasau cryfach gyda phobl yn eich cymuned. Trwy eich gwaith, byddwch yn cwrdd â gwahanol bobl o bob cefndir ac yn rhyngweithio gyda nhw, gan eich galluogi chi i ddatblygu a chryfhau eich sgiliau rhwydweithio a chyfathrebu.
Trwy gymryd rhan yn y rhaglen, gallwch helpu i wneud eich cymunedau yn fwy diogel wrth ymgysylltu â'ch tîm mewn ffyrdd ystyrlon. Cliciwch yma i weld ein swyddi gwag ar gyfer gwirfoddolwyr.
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a X i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.