Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nid gwaith i swyddogion yr heddlu yn unig yw plismona. Mae’n gofyn am dîm amlddisgyblaethol mawr yn cydweithio ac yn gwneud y defnydd gorau o’r sgiliau a’r adnoddau sydd ar gael. Yn wir, mae cyfran fawr o’n gweithlu yn cynnwys staff mewn lifrai a staff nad ydynt mewn lifrai. Mae’r swyddogaethau hyn yn chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi plismona rheng flaen.
Mae swyddogaethau staff yn amrywio’n enfawr – gan gynnwys swyddogion cyfathrebu a swyddi ym maes Adnoddau Dynol, arbenigwyr seiber a swyddogion y ddalfa, cymorth gwyddonol a swyddogion caffael. Gallai eich sgiliau, eich profiad a’ch arbenigedd chi fod yr union beth rydym yn chwilio amdano.
Rydym ni wedi ymrwymo i fod â gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Wrth wneud hyn, rydym yn annog unigolion o’n cymunedau anabl ac LHDT i ystyried cyfleoedd yn y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm gweithredu cadarnhaol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, diwylliant, crefydd, oedran, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol. Fodd bynnag, mae rhai amodau cymhwysedd y bydd angen i bob ymgeisydd eu bodloni, felly mae angen i chi wirio eich bod yn bodloni ein gofynion cyn cyflwyno cais.
Mae rhan fwyaf y swyddi gyda’r heddlu yn destun cyfnod prawf o chwe mis. Efallai y bydd angen cyfnod prawf hirach ar gyfer rhai swyddi arbenigol.
Gwent Police offer a range of training and development to ensure staff reach their fullest potential:
Os ydych yn ymgeisio am swydd fel gweithredwr yn yr ystafell gyfathrebu, bydd gofyn i chi lwyddo mewn sesiwn asesu cyn cael eich gwahodd i gyfweliad.
Bydd asesiad y ganolfan asesu yn dechrau gyda gweithgaredd sydd wedi’i gynllunio i deimlo’n gyfforddus – ni fydd yn cyfrannu at y marciau ond ei fwriad yw cyflwyno ac er mwyn i ymgeiswyr a staff ymlacio. Yn dilyn hyn, bydd disgwyl i chi gwblhau pedwar gweithgaredd asesu gwahanol, a bydd pob un yn cael ei esbonio i chi ar y pryd.
Bydd hwn yn gyfweliad sy’n seiliedig ar gymhwysedd yn unol â’r cymwyseddau a hysbysebir sy’n berthnasol i’r swydd (manylir arnynt yn y disgrifiad o’r swydd). Hefyd, gall hyn gynnwys rhai cwestiynau a gynlluniwyd i’n helpu i ddarganfod mwy am eich sgiliau a’ch priodoleddau.
Yn dilyn cyfweliad, bydd angen i chi ddarparu manylion pobl all roi geirda i chi am gyfnod o dair blynedd, a llwyddo mewn proses archwilio diogelwch drylwyr. Yn ogystal, ar gyfer rhai swyddi efallai y bydd gofyn i chi fynd i apwyntiad cyffuriau a biometrig (sy’n ffurfio proses archwilio uwch) ac apwyntiad archwiliad iechyd i sicrhau y caiff unrhyw addasiadau rhesymol eu hargymell a’u trefnu cyn penodi.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r holl wiriadau cyn cyflogi, byddwch yn symud i gam nesaf y broses.
Ar gyfer swyddi mewn lifrai, byddwch yn cael lle gyda’r garfan nesaf sydd ar gael ac yn cael apwyntiad i fesur a ffitio lifrai.
Caiff ein hamcanion cydraddoldeb ac amrywiaeth eu gorfodi drwy Fwrdd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sefydledig. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau ein bod bob amser yn trin ein cydweithwyr a’r cyhoedd â thegwch, urddas a pharch.
Darperir ein rhaglen cymorth i weithwyr gan CareFirst ac am ddim i bawb ac mae ar gael 24 awr y dydd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhaglen yn darparu cymorth cyfrinachol ar gyfer problemau a all effeithio ar berfformiad, iechyd, a lles meddyliol ac emosiynol.
Mae gennym ni Uned Iechyd a Lles Galwedigaethol i’ch helpu i gynnal eich iechyd corfforol a seicolegol wrth weithio. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol ac yn cynnwys gwasanaeth cwnsela.
Nod y tîm Iechyd Galwedigaethol yw cefnogi presenoldeb ac effeithiolrwydd drwy weithio’n rhagweithiol i leihau risgiau iechyd ac annog pobl i fod yn gyfrifol am eu hiechyd, eu ffitrwydd a’u lles eu hunain. Rydych chi hefyd yn gymwys i gael prawf llygaid am ddim.
Mae llawer o dimau chwaraeon i chi ymuno â nhw, gan gynnwys rhedeg, hoci, pysgota a phêl-droed. Mae cyfleusterau campfa am ddim hefyd mewn nifer o’n safleoedd.
Mae gennym ni bolisi absenoldeb mamolaeth alwedigaethol llawn ar gael i holl weithwyr Heddlu Gwent. Cyfanswm o 52 wythnos o amser mamolaeth: 18 wythnos ar gyflog llawn, 21 wythnos o dâl mamolaeth statudol, a 13 wythnos o ddim cyflog. Mae hyn yn amodol ar hyd gwasanaeth. Mae gennym ni hefyd bolisi absenoldeb ar gyfer mabwysiadu.
Mae amrywiaeth o gymdeithasau, rhwydweithiau a grwpiau sy’n cynorthwyo ein gweithlu ac mae gan Heddlu Gwent ystod o fentrau a chynlluniau i helpu cyd-weithwyr i ddatblygu.
Mae ein rhwydweithiau staff yn cynnig cymorth a chyfeillgarwch i’n swyddogion, y staff a’r gymuned leol. Maen nhw’n gweithio i gynorthwyo a chynghori cydweithwyr yn genedlaethol ac rydym yn falch o’r rhan weithredol sydd ganddyn nhw o ran dylanwadu ar blismona ledled y DU.
Mae’r rhwydweithiau a’r cymdeithasau yn cynnwys:
Dim ond Swyddogion yr Heddlu all ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu, os ydych chi’n penderfynu ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu, gallwch ddewis ymuno â chynllun yswiriant bywyd a’r dyfarniadau yn daladwy i’ch priod neu’ch partner, ac i unrhyw ddibynyddion. Yn ogystal â gallu cael yswiriant salwch ac afiechyd hanfodol, gallwch gael yswiriant, ar gost ffafriol, i dalu am unrhyw dreuliau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’ch swydd, a gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfleusterau adsefydlu gorau.
I hybu teithiau iachus i’r gwaith, mae Heddlu Gwent a Cycle Solutions wedi gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cyfle i staff a swyddogion gael gostyngiad mawr oddi ar bris beic ac offer diogelwch, gan wasgaru’r gost dros 18 mis.
Gostyngiadau sefydliadol a ffordd o fyw gan gynnwys aelodaeth i gampfeydd (yn ogystal â champfeydd ar y safle), bwytai, prydau parod, teithio, cynhyrchion ariannol, cynllun gofal llygaid a mwy.
Pan fyddwch yn ymuno â Heddlu Gwent, byddwn yn sicrhau bod ystod eang o fuddion ar gael i chi.
Staff yr heddlu:
Swyddogion yr heddlu:
Gall cyflogeion ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, sy’n gynllun pensiwn cyfrannol.
Ewch i Gynllun Pensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen) am ragor o wybodaeth.
Mae Heddlu Gwent yn sylweddoli pwysigrwydd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac mae ganddo bolisïau da ar gyfer mamolaeth/tadolaeth, absenoldeb rhiant a rennir, amser i ofalu am y rhai sy’n dibynnu arnoch, gostyngiad gwirfoddol mewn oriau gwaith, yr hawl i wneud cais i weithio’n hyblyg ac i rannu swydd.
Yn dibynnu ar y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani, bydd oriau gwaith amrywiol. Bydd rhai swyddi, fel y rhai yn ein Hystafell Gyfathrebu, er enghraifft, ar batrwm sifftiau sefydlog, tra bod gan lawer o swyddi swyddfa (hyd at swyddi prif swyddogion) y fantais o weithio oriau hyblyg a gweithio ystwyth.
Mae hyblygrwydd yn dibynnu ar y swydd.
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a X i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.