Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhaglen ddeinamig a diddorol ar gyfer pobl ifanc 13–17 oed sydd eisiau dysgu sgiliau newydd a gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned.
Ydych Chi'n Barod i…
Os ydych chi, efallai y bydd y Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol yn berffaith i chi.
Rydym ni wedi ymrwymo i fod â gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Wrth wneud hyn, rydym yn annog unigolion o’n cymunedau anabl ac LHDT i ystyried cyfleoedd yn y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm gweithredu cadarnhaol.
Mae ein rhaglen cadetiaid yn cynnig profiad unigryw, ymarferol o blismona i bobl ifanc.
Ein nod yw:
Beth mae cadetiaid yn ei wneud:
Byddwch yn datblygu sgiliau gwerthfawr ym maes cyfathrebu, gwaith tîm, gwneud penderfyniadau, a datrys problemau.
Gall cymryd rhan gyfrannu at Wobr Cyflawniad Ieuenctid, Gwobr Dug Caeredin, a Bagloriaeth Cymru.
Rydym yn croesawu pobl ifanc o bob cefndir, gan gynnwys y rhai sy'n agored i droseddu neu allgau cymdeithasol.
Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan:
Rydym yn addasu gweithgareddau lle bo angen, mae lleoliadau'n hygyrch, ac mae sesiynau treialu ar gael i'r rhai sy'n teimlo'n bryderus am ymuno.
Mae pedair uned cadetiaid yn yr ardaloedd canlynol:
Gofynion mynediad
Bydd Cadetiaid yn gadael yn 18 oed ond gallant symud ymlaen i rolau Arweinydd Cadet, Gwirfoddolwr Cymorth yr Heddlu, neu Gwnstabl Gwirfoddol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais cadét a holiadur meddygol.
Gofynnir i gadetiaid nodi pa uned y byddent yn dymuno ymuno â hi ar y ffurflen gais. Ar ôl pasio’r cam gwirio, cewch eich ychwanegu at restr aros ar gyfer eich yr uned honno. Pan fyddwn wedi derbyn y nifer angenrheidiol o ymgeiswyr ar gyfer carfan, fe fyddwn ni’n cysylltu â chi’n uniongyrchol i roi gwybodaeth i chi am ymuno.
Mae'r rhaglen am ddim.
Mae pob Cadet yn cael iwnifform am ddim, gan gynnwys esgidiau.
Darperir manylion llawn unwaith y bydd cofrestru wedi'i gwblhau.
O bryd i’w gilydd, efallai y bydd angen i chi ddod â'ch cinio neu fyrbrydau eich hun ar gyfer teithiau arbennig wedi'u cynllunio. Bydd rhybudd yn cael ei roi bob amser ar gyfer y teithiau hyn.
Mae Heddlu Gwent yn dilyn fframwaith diogelu Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol Cenedlaethol, gan sicrhau cysondeb o ran hyfforddiant, goruchwylio a riportio.
Mae pob Arweinydd Cadetiaid yn cael ei fetio a gwiriadau DBS manwl.
Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Diogelu Cenedlaethol i gynnal safonau uchel o ddiogelu ieuenctid.
Perygl uniongyrchol: Ffoniwch 999
Pryderon nad ydynt yn rhai brys:
Gwasanaethau cymorth eraill:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yng Ngwent, cysylltwch â [email protected].
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a X i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.