Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae bod yn wirfoddolwr cymorth heddlu yn golygu cyfrannu ychydig o’ch amser a’ch sgiliau i’n helpu ni i wella safon y gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig i’n cymunedau.
Mae gwirfoddolwyr cymorth heddlu yn cynorthwyo ac yn ategu’r gwaith a wneir o ddydd i ddydd gan swyddogion a staff yr heddlu.
Rydym ni wedi ymrwymo i fod â gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Wrth wneud hyn, rydym yn annog unigolion o’n cymunedau anabl ac LHDT i ystyried cyfleoedd yn y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm gweithredu cadarnhaol.
Mae cyfleoedd yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad, ar sail anghenion lleol. Er hyn, mae swyddogaethau arferol yn cynnwys:
Rydym yn gofyn bod gan wirfoddolwyr rai sgiliau sylfaenol
Dylai gwirfoddolwyr hefyd fod ag agwedd bositif a chyfeillgar a pharodrwydd i ddysgu.
Rydym yn chwilio am bobl 18 a hŷn o wahanol gefndiroedd, gydag ystod o sgiliau a phrofiadau i’n cynorthwyo ni.
Caiff gwirfoddolwyr eu recriwtio heb ystyriaeth i rywedd, anabledd, hil, crefydd nac unrhyw agwedd arall ar amrywiaeth.
Mae gwirfoddolwyr yn dod ag ystod eang o brofiadau bywyd a sgiliau i’r timau y maen nhw’n eu cefnogi ac yn ychwanegu gwerth at waith staff hyfforddedig. Yn aml, mae gan wirfoddolwyr gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd sy’n gallu bod o fudd i’r gymuned ehangach.
Bydd cyfleoedd gwirfoddoli yn cael eu hysbysebu ar y dudalen swyddi gwag pan fyddant ar gael.
Nid yw gwirfoddolwyr yn rhan o’r Heddlu Gwirfoddol. Nid oes ganddynt unrhyw bwerau heddlu na gwisg.
I wirfoddoli mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn, ac wedi bod yn breswyliwr yn y DU am o leiaf tair blynedd. Os ydych chi o dan 18 oed, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli fel cadét heddlu.
Mae’n rhaid i chi ddatgelu unrhyw euogfarnau blaenorol, a chaniatáu i Heddlu Sussex gynnal Gwiriad Cefndir Heddlu Cenedlaethol Lefel 2 (noder na fydd cael record droseddol o reidrwydd yn eich eithrio rhag cael eich ystyried i wirfoddoli. Bydd peidio â datgelu record droseddol, a fydd yn dod i’r amlwg yn ddiweddarach, yn arwain at ddiswyddiad ar unwaith o swydd wirfoddol).
Bydd ymgeiswyr yn ddarostyngedig i’r un meini prawf ag aelodau o’r heddlu. Efallai bydd angen rhagor o wiriadau yn dibynnu ar y swydd wirfoddol a gyflawnir.
Ni fydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn fel gwirfoddolwyr pan fo gwrthdaro buddiannau yn eu bywyd proffesiynol neu swydd wirfoddol arall.
Yn rhan o’u cais, felly, mae’n rhaid iddynt ddatgelu natur eu swydd neu fanylion unrhyw waith gwirfoddol arall a wneir.
Mae gwirfoddoli i Heddlu Gwent yn darparu cyfle i’r gwirfoddolwr weithio gyda swyddogion a staff yr heddlu, ennill sgiliau gwerthfawr a phrofiad mewn sefydliad proffesiynol a chyhoeddus. Mae’n cynnig cyfle i gwrdd â phobl newydd a gweithio yn rhan o dîm, ymgysylltu a rhyngweithio gyda phobl o wahanol gymunedau a chefndiroedd wrth wneud cyfraniad positif i’r gymuned leol.
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a X i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.