Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni’n cael ein cydnabod fel cyflogwr hyderus o ran anabledd. Mae hyn yn golygu bod gennym nod o recriwtio a chadw pobl anabl, a phobl sydd â chyflyrau iechyd, am eu sgiliau a’u doniau:
Mae’n bwysig bod ymgeiswyr yn ystyried a hoffent wneud cais am drefniadau a fydd yn eu cynorthwyo i gwblhau elfennau o’r broses recriwtio. Gallai hyn fod mewn perthynas ag anabledd, niwroamrywiaeth, beichiogrwydd, y menopos, anaf, crefydd neu gred ac ati.
Mae enghreifftiau o’r trefniadau y gellir eu darparu’n cynnwys: (nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr)
Os hoffech wneud cais am drefniadau cefnogaeth neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Recriwtio Adnoddau Dynol.
Bydd unrhyw geisiadau am gyswllt neu wybodaeth mewn perthynas â newidiadau neu addasiadau rhesymol yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol.
Os oes angen ein gwybodaeth am gydraddoldeb mewn fformat amgen, cysylltwch â ni i wneud cais neu i drafod eich anghenion drwy [email protected]
Rydyn ni’n gyflogwr sy’n hyderus o ran anabledd, a chyhyd â bod yr ymgeiswyr yn bodloni’r gofynion sylfaenol, byddan nhw’n cael eu gwahodd am gyfweliad. Mae modd i ni gynnig amser ychwanegol ar gyfer profion sy’n cael eu hamseru.
Mae modd i ni gymeradwyo addasiadau rhesymol yn ein canolfannau asesu ar gyfer ymgeiswyr sy’n gallu darparu adroddiad diagnostig oedolyn llawn. Os nad oes modd i chi ddarparu adroddiad fel rhan o’ch cais, dylech fod yn ymwybodol efallai na fydd modd i ni ystyried addasiadau ar gyfer yr elfennau hyn.