Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Cynllun Cysgodi’n cynnig cyfle i aelodau’r cyhoedd ymuno â’n swyddogion ar batrôl a chael cipolwg uniongyrchol ar blismona dyddiol.
Gallwch ddod i ddeall yn ymarferol natur gwaith yr heddlu ar draws yr amrywiaeth gyfan o weithgareddau patrôl arferol.
I bwy mae’r cynllun ar gael I wneud cais ar gyfer y cynllun hwn:
Bydd angen i chi lenwi ffurflen ganiatâd a phasio gwiriad cofnodion troseddol. Nid yw cael euogfarn flaenorol o reidrwydd yn golygu na allwch chi ddefnyddio’r cynllun. Rydym yn adolygu pob cais fesul achos. Os bydd eich cais yn cael ei wrthod, byddwch yn cael gwybod yn ysgrifenedig.
Os oes gennych chi anabledd neu gyflwr meddygol, bydd addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar eich cyfer.
Fodd bynnag, bydd eich lles chi’n cael blaenoriaeth bob amser. Os bydd rhai agweddau ar weithgareddau plismona yn anaddas ar eich cyfer, byddwn yn trefnu cyfle arsylwi arall i chi.
Pwy fyddwch chi’n eu cysgodi
Byddwch yn gallu nodi pa ardal awdurdod lleol yng Ngwent yr hoffech chi fod ynddi ar gyfer y cynllun. Yn eich ardal ddewisol, gallwch ymuno â swyddogion o’r timau canlynol:
Nod swyddogion plismona cymdogaeth yw gwneud bywyd yn saffach ac yn well i bawb yng Ngwent. Maen nhw’n gweithio gyda phartneriaid, sefydliadau a’r cyhoedd i roi sylw i faterion cymunedol fel ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Y swyddogion hyn yw’r ymatebwyr cyntaf mewn sefyllfaoedd o argyfwng, gallai hyn fod yn unrhyw beth o fyrgleriaeth i ymosodiad.
Nod y cynllun yw cryfhau ein perthynas gyda’r cyhoedd a helpu pobl i ddeall mwy am y ffordd rydym yn plismona. Byddwch yn cael cipolwg ar sut beth yw bod yn swyddog yr heddlu ar shifft a chyfle i gael golwg heb ei ail ar blismona rheng flaen.
Mae’r profiad yn ddefnyddiol os ydych yn ystyried plismona fel gyrfa. Bydd y swyddog rydych yn ei gysgodi yn gallu rhannu ei brofiad â chi o’r broses o ymuno â Heddlu Gwent yn ogystal â deunyddiau ysgrifenedig cyfredol i esbonio’r broses bresennol.
Fel arall, byddwch yn gallu rhoi adborth i’r heddlu o’ch safbwynt chi fel aelod o’r gymuned.
Ar y diwrnod, byddwn yn gofyn i chi lofnodi cytundeb cyfrinachedd ac yn rhoi taflen wybodaeth sylwedydd i chi.
Gall profiad Cysgodi fod rhwng un a chwe awr. Mae’n gallu amrywio gan ddibynnu ar y gweithgaredd rydych yn ei wneud, ond efallai y bydd rhaid ei gwtogi oherwydd argyfwng. Byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion eich patrôl cyn y profiad Cysgodi.
Pan fyddwch ar batrôl, byddwch yn cael siaced lachar wedi’i marcio â "Sylwedydd/Observer".
Rydym yn argymell gwisgo dillad ac esgidiau sy’n gyfforddus ac yn addas ar gyfer y tywydd.
Mae’n rhaid i chi fynd â ffôn symudol sy’n gweithio ac wedi’i wefru gyda chi.
Mae gennym ni ddyletswydd gofal tuag atoch chi, aelodau’r cyhoedd y gallech chi ddod i gysylltiad â nhw a’n swyddogion heddlu a staff heddlu.
Gwneir pob ymdrech i’ch cael chi mor agos at waith swyddogion heddlu rheng flaen ag sy’n bosibl. Fodd bynnag, efallai y bydd achlysuron pan fydd profiad Cysgodi yn cael ei gwtogi, oherwydd sefyllfaoedd brys neu amodau lle y gallech chi fod mewn perygl.
I wneud cais, llenwch ein ffurflen gais ar-lein. Byddwn yn gofyn i chi am eich manylion cyswllt, dyddiad geni, pam rydych chi eisiau ymuno â’r cynllun a’r hyn rydych yn dymuno’i gyflawni yn ystod y dydd.
Gall gymryd sawl wythnos i ni brosesu ceisiadau. Mae hyn yn dibynnu’n helaeth ar y galw.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost os yw’ch cais i gysgodi’n cael ei gymeradwyo ac yn anfon cyfarwyddiadau atoch ar gyfer y diwrnod.
Sylwer y bydd pob ymgeisydd yn destun gwiriadau diogelwch cyn i geisiadau gael eu cymeradwyo. Os bydd ymgeisydd yn cael ei wrthod, byddwch yn derbyn e-bost yn esbonio pam. Dim ond un cais y pen y byddwn yn ei dderbyn mewn cyfnod o 12 mis. Bydd ail geisiadau o fewn y cyfnod hwn yn cael eu cau yn awtomatig.