Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gan Heddlu Gwent ymrwymiad cadarn i werthfawrogi gwahaniaeth ac annog cynhwysiant – o fewn ein sefydliad a drwy’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu. Un o’r ffyrdd y gallwn sicrhau ein bod ni’n cyflawni gwasanaeth sy’n diwallu anghenion y cyhoedd yw cael gweithlu sy’n adlewyrchu ein cymunedau. Mae hyn yn golygu sicrhau ein bod ni’n denu, recriwtio a chadw gweithlu amrywiol.
Fel rhan o’n dyletswydd cydraddoldeb a gynhwysir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, mae gan Heddlu Gwent gyfrifoldeb i ddileu unrhyw anfanteision a brofir gan bobl sydd â ‘nodweddion gwarchodedig’ (mae hyn yn golygu rhywiol, hil, crefydd, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth a phriodas a phartneriaeth sifil). Rydym yn bwriadu cyflawni hyn drwy ymgysylltu â’n cymunedau amrywiol a drwy fentrau camau gweithredu positif.
O ran recriwtio, mae angen i ni ddeall unrhyw rwystrau sy’n atal pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig rhag ymuno â’r heddlu a gweithio i ddileu’r rhwystrau. Mae hefyd yn golygu bod angen i ni ddeall demograffeg ein gweithlu (er enghraifft, faint o swyddogion o leiafrifoedd ethnig sydd gennym) ac os yw’r niferoedd yn is na ddylent fod, yna gweithio i newid hyn.
Mae camau gweithredu cadarnhaol yn cyfeirio at y mentrau yr ydym yn ymgymryd â hwy i ddileu rhwystrau ac annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i wneud cais i ymuno â Heddlu Gwent. Mae nifer o ffyrdd y byddwn yn gwneud hyn, gan gynnwys (ond heb eu cyfyngu i):
Gall heddluoedd ddefnyddio camau gweithredu cadarnhaol wrth benderfynu penodi ymgeisydd o grŵp sy’n rhannu nodwedd warchodedig os ydyn nhw’n credu yn rhesymol bod y grŵp dan anfantais neu heb gynrychiolaeth ddigonol yn y gweithlu, neu os yw ei gyfranogiad mewn gweithgaredd yn anghymesur o isel.
Fodd bynnag, ni ddylai heddluoedd fod â pholisi cyffredinol o drin pobl â’r nodwedd warchodedig berthnasol yn fwy ffafriol o ran recriwtio neu ddyrchafu.
Rydym yn cynnal rhaglen o sesiynau i wneud pobl yn ymwybodol o weithredu cadarnhaol gydol y flwyddyn i bobl o grwpiau sydd ddim yn cael eu cynrychioli'n ddigonol sydd â diddordeb mewn dod yn Swyddog Heddlu, Swyddog Cymorth Cymunedol, Cwnstabl Gwirfoddol neu aelod o staff yr heddlu.
Rydym yn awyddus iawn i dderbyn ceisiadau gan bobl sydd o gefndir Du, Asiaidd neu gefndir lleiafrif ethnig arall (gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig gwyn fel pobl Tsiecaidd, Slofacaidd, Pwylaidd, Sipsiwn/Teithwyr).
Ymunwch â ni i ddysgu mwy am y swyddi sydd ar gael a sut beth yw gweithio i Heddlu Gwent. Cewch gyfle i gwrdd â swyddogion a staff sy'n gwasanaethu, clywed am eu profiadau a dysgu am y gwahanol yrfaoedd sydd ar agor i chi.
Gweld ac ymgeisio am swyddi gwag ar gyfer staff yr heddlu.
Oes gennych chi ddiddordeb yn y swydd hon? Cliciwch yma.
Gweld ac ymgeisio am swyddi gwag Ystafell Gyswllt a Rheoli’r Llu.
Oes gennych chi ddiddordeb yn y swydd hon? Cliciwch yma.
Oes gennych chi ddiddordeb yn y swydd hon? Cliciwch yma.
Oes gennych chi ddiddordeb yn y swydd hon? Cliciwch yma.
Oes gennych chi ddiddordeb yn y swydd hon? Cliciwch yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o fanylion am y mentrau camau gweithredu cadarnhaol yr ydym yn eu datblygu yn Heddlu Gwent, cysylltwch â Brian Amos neu Clare Gibson drwy e-bost:
Anfonwch e-bost at y Tîm Gweithredu Cadarnhaol
Yng Ngwent, mae gennym boblogaeth leiafrifoedd ethnig o tua 3.9%, sy’n codi i 10% yng Nghasnewydd. Fodd bynnag, dim ond 2.2% o’n gweithlu sy’n swyddogion heddlu lleiafrifoedd ethnig. Mae hyn yn golygu bod gennym gyfrifoldeb arbennig i annog a chefnogi ceisiadau o’n cymunedau amrywiol. Mae Heddlu Gwent yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl sydd o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig eraill (gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig anweladwy megis Tsieciaid, Slofaciaid, Pwyliaid, Sipsiwn/Teithwyr.) Hefyd mae gennym ddiddordeb penodol mewn derbyn ceisiadau gan bobl sy’n arddel hunaniaeth LHDT ac anabl.
Mae amrywiaeth o gymdeithasau, rhwydweithiau a grwpiau sy’n cynorthwyo ein gweithlu ac mae gan Heddlu Gwent ystod o fentrau a chynlluniau i helpu cyd-weithwyr i ddatblygu.
Mae ein rhwydweithiau staff yn cynnig cymorth a chyfeillgarwch i’n swyddogion, y staff a’r gymuned leol. Maen nhw’n gweithio i gynorthwyo a chynghori cydweithwyr yn genedlaethol ac rydym yn falch o’r rhan weithredol sydd ganddyn nhw o ran dylanwadu ar blismona ledled y DU.
Mae’r rhwydweithiau a’r cymdeithasau yn cynnwys:
Dim ond Swyddogion yr Heddlu all ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu, os ydych chi’n penderfynu ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu, gallwch ddewis ymuno â chynllun yswiriant bywyd a’r dyfarniadau yn daladwy i’ch priod neu’ch partner, ac i unrhyw ddibynyddion. Yn ogystal â gallu cael yswiriant salwch ac afiechyd hanfodol, gallwch gael yswiriant, ar gost ffafriol, i dalu am unrhyw dreuliau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’ch swydd, a gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfleusterau adsefydlu gorau.
Mae’r IAG yn grŵp o bobl sy’n annibynnol ar Heddlu Gwent ond yn gweithio mewn partneriaeth â ni fel ein ‘ffrindiau beirniadol’. Mae’r grŵp yn cynnwys pobl o gefndiroedd gwahanol y gymuned leol ac yn cynnig cyngor annibynnol i’r heddlu ar bolisïau lleol/yr heddlu, strategaethau, cynlluniau cyflawni a phryderon y gymuned.
Mae cael IAG yn helpu i sicrhau bod Heddlu Gwent yn ymddwyn yn deg, heb wahaniaethu ac yn ystyried sut mae ein camau gweithredu yn effeithio ar ein cymunedau.
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a Twitter i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.
![]() |