Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gweithiais ar dîm o bump a oedd yn gorfod newid y feddalwedd ar y 150+ o gyfrifiaduron yn ein cwmni. Roedd pob aelod o’r tîm o adran wahanol ac yn arbenigo mewn gwahanol agweddau ar y newid, felly bu’n rhaid i ni gydweithio i sicrhau bod y newid yn digwydd yn ystod y tair wythnos a ddynodwyd gyda chyn lleied o darfu â phosibl.
Roedd y dasg yn heriol iawn, felly roedd hi’n bwysig cynnwys pobl ag arbenigedd mewn gwahanol feysydd i greu’r tîm. Ystyriais fy ngalluoedd a’m sgiliau fy hun a sut y byddan nhw’n addas i’r tasgau amrywiol yr oedd yn rhaid eu cwblhau. Edrychais hefyd ar sgiliau’r tîm a pha bobl fyddai’n fwyaf addas ar gyfer swyddogaeth benodol. Fe wnes i’n siŵr bod pawb yn gwybod beth yr oedden nhw’n ei wneud ac yn helpu pan oedd pobl yn ansicr. Fe wnes i hefyd cadw llygad gynnydd y tîm er mwyn sicrhau ein bod yn gorffen y gwaith yn brydlon.
Fe wnes i ganolbwyntio ar wneud yn siŵr bod y tîm yn gweithio gyda’i gilydd ar y gwaith, a cheisio helpu os oedd unrhyw broblemau yn codi. Fe wnes i hyn drwy drefnu cyfarfodydd wythnosol rheolaidd i drafod unrhyw broblemau a monitro’r cynnydd o ran ein cynlluniau i sicrhau ein bod yn gweithio o fewn y terfynau amser y gwnaethom eu pennu. Roedd y cyfarfodydd yn gyfle da hefyd i ni ddod i adnabod ein gilydd yn well. Fe wnaethom ni ddatblygu gwefan hefyd lle’r oedd aelodau’r tîm yn gallu gofyn cwestiynau neu ofyn am gymorth.
Roedd y trosglwyddo yn llwyddiannus iawn, cwblhaodd y tîm ei dasg ddau ddiwrnod cyn y dyddiad terfyn, ac rwy’n falch iawn o hynny. Cadwyd y wefan a ddatblygwyd ar gyfer y trosglwyddo i helpu i ymdrin â phroblemau TG eraill.
Yn anffodus, mae’n rhaid i swyddogion sy’n dymuno gwneud cais fod wedi cwblhau eu cyfnod prawf yn llwyddiannus ar y rheng maen nhw’n trosglwyddo iddi. (Mae hyn yn cynnwys Cam 4 proses y Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol).
Rydym ni’n chwilio am swyddogion â sgiliau amrywiol gan gynnwys ditectifs o reng cwnstabl i arolygydd er mwyn i ni allu llenwi amrywiaeth o swyddi gwag wrth iddynt godi yn y dyfodol. Nid oes gennym amserlenni ar gyfer penodi ar hyn o bryd. Bydd penodiadau yn dibynnu ar sgiliau ymgeiswyr a’r swyddi gwag ar draws ardal yr heddlu ac ni ellir eu gwarantu.
Mae’r swyddi gwag presennol ledled Gwent.
Os byddwch yn llwyddiannus byddwn yn gofyn i chi fynd i apwyntiad meddygol, sy’n cynnwys prawf llygaid. Ar hyn o bryd, y safon ofynnol yw golwg 6/36 heb gymorth (heb sbectol/lensys).
Byddwn yn cysylltu â’ch adran AD i wirio salwch, adolygiad datblygiad proffesiynol (PDR), hyfforddiant, cyflog a phensiwn. Rhowch gyfeiriad e-bost uniongyrchol.
Ar yr amod bod y cyrsiau wedi eu hachredu yn genedlaethol, eu bod yn dilyn canllawiau cenedlaethol a bod tystiolaeth o gymhwysedd (h.y. tystysgrif cyflawni cyrsiau a diweddaru) byddant yn drosglwyddadwy.
Byddai angen i swyddogion sydd â chymhwyster OSPRE wneud cais am ddyrchafiad ar ôl cael eu penodi – pan fydd gennym ni broses recriwtio ar gyfer dyrchafiad ar gael yn Heddlu Gwent. Byddwch yn trosglwyddo ar eich gradd bresennol.
Ar hyn o bryd, nid ydym yn derbyn ceisiadau gan swyddogion sy’n gwasanaethu gyda:
Mae cymhwysedd yn rhinwedd a ddefnyddir i fesur pa mor dda y gallwch chi wneud rhywbeth. Er enghraifft ‘cymryd perchnogaeth’ neu ‘arloesol ac â meddwl agored’.
Rydym yn defnyddio cyfweliadau cymhwysedd gan eu bod yn ffordd dda o sicrhau bod gennych chi’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r swydd yn dda.
Mae rhestr o gymwyseddau wedi’i chynnwys gyda phob swydd yr ydym yn ei hysbysebu, a nodir y rhai gwirioneddol bwysig yn y disgrifiad swydd.
Disgrifir pob cymhwysedd yn fanwl er mwyn i chi ddeall ei union ystyr.
Dylech feddwl am enghreifftiau o’ch cefndir eich hun – o swydd flaenorol, swyddogaeth wirfoddoli neu’r ysgol – sy’n dangos y gallwch arddangos pob cymhwysedd.
Cewch, nid oes cyfyngiad ar nifer y swyddi gwag y cewch ymgeisio amdanynt.
Mae adborth ar gael i ymgeiswyr sydd wedi cael cyfweliad. Nid ydym yn gallu darparu adborth ar y cam tynnu rhestr fer oherwydd niferoedd y swyddi gwag a’r ymgeiswyr. Anfonwch e-bost i ofyn am gopi o’r nodiadau o’ch cyfweliad.
Byddwn yn gofyn am eirdaon ar ôl y cyfweliad, wrth i ni gynnal y broses wirio. Sicrhewch eich bod wedi darparu cyfeiriadau e-bost dilys ar gyfer eich canolwyr. Geirdaon cyflogaeth sy’n well gennym. Bydd unrhyw oedi wrth gael geirda boddhaol yn oedi eich dyddiad dechrau.
Byddwn yn gofyn am fanylion personol gennych ac am y rhai sy’n byw gyda chi, ynghyd â’ch teulu agosaf. Gan mai gwasanaeth heddlu ydym ni, mae angen i ni sicrhau ein bod yn deall y risgiau posibl. Bydd yn rhaid i chi fodloni lefel wirio wahanol ar gyfer pob swydd. Byddwn yn ystyried rhybuddion, euogfarnau a chyhuddiadau ar sail achos unigol.
Lefel 1
Gallu dweud enwau lleoedd, enwau personol, gallu cyfarch yn briodol yn bersonol neu ar y ffon, gallu dechrau a therfynu cyfarfodydd yn ddwyieithog.
Lefel 2
Gallu deall hanfod sgwrs a chyfleu gwybodaeth syml, gallu ymateb i geisiadau syml, gallu deall ceisiadau am gymorth, gallu defnyddio Cymraeg i drosglwyddo galwadau ffôn, gallu cyflwyno ei hun ac eraill.
Lefel 3
Gallu cymryd a throsglwyddo negeseuon sy’n debygol o fod angen sylw yn ystod diwrnod gwaith, gallu sgwrsio’n rhannol yn Gymraeg ond yn troi at y Saesneg mewn trafodaethau ac i roi gwybodaeth fanwl, gallu disgrifio pobl a lleoliadau, gallu ymateb i ymholiadau cyffredinol dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, gallu cymryd manylion neu nodiadau o wrando ar sgwrs Gymraeg.
Lefel 4
Gallu cyfrannu’n effeithiol mewn cyfarfodydd o fewn ei faes gwaith ei hun, gallu dadlau achos o blaid neu yn erbyn syniad, gallu sgwrsio yn Gymraeg yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd ond yn troi at y Saesneg wrth ddefnyddio terminoleg plismona neu dechnegol, gallu ymdrin ag ymholiadau’n effeithiol, gallu deall gwahanol dafodieithoedd, gallu cadeirio cyfarfod ac ymateb i gwestiynau yn Gymraeg, gallu disgrifio sefyllfa neu ddigwyddiad yn Gymraeg.
Lefel 5
Gallu cyfweld ag ymgeiswyr am swyddi lle mae angen gallu siarad Cymraeg ac asesu eu haddasrwydd, gallu ymdrin yn effeithiol ag ymholiadau cymhleth neu ymdrin â gwrthdaro yn Gymraeg, gallu cyfweld neu holi yn ystod ymchwiliad, gallu ymdrin ag ymholiadau cymhleth neu sensitif, cwynion a chwestiynau ymosodol yn ei faes arbenigol ei hun, gallu gwneud cyflwyniadau yn Gymraeg.
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a X i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.