Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Ystafell Gyswllt a Rheoli'r Llu yn gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn ac mae’n ganolbwynt i’n gweithrediadau. Mae'n amgylchedd lle mae pethau'n symud yn gyflym ac yn newid trwy'r amser sydd wrth galon gwaith y gwasanaeth heddlu yng Ngwent ac fel y pwynt cyswllt cyntaf, mae ein tîm yn allweddol yn darparu’r gwasanaeth mwyaf effeithlon o’r safon uchaf i’n cymunedau ac yn cyfrannu at y profiad cyffredinol o ymdrin â’r Heddlu.
Mae Cysylltwyr Ystafell Gyswllt a Rheoli'r Llu yn derbyn llawer o hyfforddiant ac maen nhw'n fedrus iawn. Maen nhw'n ymdrin â'r holl alwadau brys a dderbynnir trwy 999 a'r holl alwadau nad ydynt yn rhai brys a dderbynnir trwy 101 a'r Switsfwrdd ynghyd â’r galw digidol trwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol, e-bost a riportio ar-lein. Mae Ystafell Gyswllt a Rheoli’r Llu yn derbyn dros 1500 cyswllt y dydd, gan gynnwys hysbysiadau am drosedd difrifol, gwrthdrawiadau traffig, ymddygiad gwrthgymdeithasol, cam-drin domestig, iechyd meddwl a phobl ar goll. Mae pob cyswllt yn wahanol ac mae ein timau’n ymdrechu i gasglu a chofnodi’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i asesu bygythiad, niwed, risg a bregusrwydd, i’w galluogi nhw i benderfynu ar y ffordd orau i ddiwallu anghenion y galwr - cyfle go iawn i wneud gwahaniaeth.
Rydym ni wedi ymrwymo i fod â gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Wrth wneud hyn, rydym yn annog unigolion o’n cymunedau anabl ac LHDT i ystyried cyfleoedd yn y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm gweithredu cadarnhaol.
Pan fyddwch yn ymuno â Heddlu Gwent, bydd amrywiaeth o fuddion ar gael i chi:
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, diwylliant, crefydd, oedran, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol. Fodd bynnag, mae rhai amodau cymhwysedd y bydd angen i bob ymgeisydd eu bodloni, felly mae angen i chi wirio eich bod yn bodloni ein gofynion cyn cyflwyno cais.
Os byddwch yn llwyddiannus cewch eich cyflogi yn amodol ar gyfnod prawf o 16 mis. Y rheswm dros hyd y cyfnod prawf hwn yw ein bod yn treulio llawer o amser yn sicrhau eich bod yn derbyn yr holl hyfforddiant a chymorth angenrheidiol. Mae hyn yn rhoi digon o amser i chi ddysgu, magu hyder a dod yn gymwys ym mhob rhan o’r swydd.
Byddwch yn dechrau ar gyflog gradd 3 ac yn derbyn hyfforddiant Trin Galwadau i ddechrau. Mae'r chwe wythnos gyntaf yn seiliedig yn y dosbarth ac yn ystod wythnosau 7-13 byddwch yn gweithio 37 awr o ddydd Llun i ddydd Gwener yn cyflawni’r swydd a derbyn hyfforddiant a mentora ychwanegol gan gynnwys hyfforddiant Cofnodi a Rheoli Troseddau. Yn ystod y cyfnod hyfforddi hwn ni ellir caniatáu gwyliau blynyddol sylweddol oherwydd yr effaith ar gynnydd a phroblemau ail-drefnu oherwydd diffyg pobl. Tuag wythnos 14 eich cyflogaeth byddwch yn dechrau gweithio ar y patrwm sifftiau ac yn derbyn y lwfans sifft perthnasol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn dechrau derbyn y taliadau 20% ychwanegol a gallwch hawlio taliadau ychwanegol ar gyfer penwythnosau (mae hyn yn cyfateb i ryw 14.28% arall).
Yna byddwch yn cael eich asesu o ran Cofnodi a Rheoli Troseddau ac unwaith i chi gymhwyso, byddwch yn symud i radd 4. Yn y diwedd byddwch yn symud i drydydd cam eich hyfforddiant sef y gwaith o anfon swyddogion. Pan fyddwch yn gwbl gymwys yn y maes hwn byddwch yn symud i radd 5. Bydd gofyn i chi hyfforddi a chynorthwyo aelodau eraill o staff gyda’u datblygiad pan fyddwch yn gwbl gymwys ym mhob maes.
O ystyried gofynion gweithredol, adnoddau a hyfforddiant ac o ystyried bod pobl yn cymhwyso ar adegau amrywiol, mae’n amhosibl gwarantu pryd yn ystod yr 16 mis y bydd y newid gradd hwn yn digwydd. Yr hyn y gellir ei warantu yw y byddwch ar radd pump ar y golofn gyflog erbyn diwedd yr 16 mis.
Mae’r system sifftiau’n golygu 6 diwrnod o weithio, 4 diwrnod o orffwys ac fel arweiniad mae’n gweithio fel hyn:
Mae’r amserlen yn cael ei chyhoeddi o leiaf 3 mis ymlaen llaw. Mae’r system sifftiau’n weithredol 365 diwrnod y flwyddyn ac mae’n cynnwys Gwyliau Banc. Os byddwch yn gweithio ar y patrwm sifft llawn mae gennych chi hawl i lwfans sifft 20% a chyfradd uwch am weithio ar benwythnos. Yn ogystal â gwyliau blynyddol mae gan bob aelod o staff hawl i 8 Gŵyl Banc statudol y flwyddyn hefyd, a rhoddir y diwrnodau hyn i chi ond nid o reidrwydd ar ddyddiadau’r Gwyliau Banc. Os byddwch yn gweithio ar Ŵyl Banc bydd eich cyfradd yr awr yn uwch.
Os ydych yn ymgeisio am swydd fel gweithredwr yn yr ystafell gyfathrebu, bydd gofyn i chi lwyddo mewn sesiwn asesu cyn cael eich gwahodd i gyfweliad.
Bydd asesiad y ganolfan asesu yn dechrau gyda gweithgaredd sydd wedi’i gynllunio i deimlo’n gyfforddus – ni fydd yn cyfrannu at y marciau ond ei fwriad yw cyflwyno ac er mwyn i ymgeiswyr a staff ymlacio. Yn dilyn hyn, bydd disgwyl i chi gwblhau pedwar gweithgaredd asesu gwahanol, a bydd pob un yn cael ei esbonio i chi ar y pryd.
Bydd hwn yn gyfweliad sy’n seiliedig ar gymhwysedd yn unol â’r cymwyseddau a hysbysebir sy’n berthnasol i’r swydd (manylir arnynt yn y disgrifiad o’r swydd). Hefyd, gall hyn gynnwys rhai cwestiynau a gynlluniwyd i’n helpu i ddarganfod mwy am eich sgiliau a’ch priodoleddau.
Yn dilyn cyfweliad, bydd angen i chi ddarparu manylion pobl all roi geirda i chi am gyfnod o dair blynedd, a llwyddo mewn proses archwilio diogelwch drylwyr. Yn ogystal, ar gyfer rhai swyddi efallai y bydd gofyn i chi fynd i apwyntiad cyffuriau a biometrig (sy’n ffurfio proses archwilio uwch) ac apwyntiad archwiliad iechyd i sicrhau y caiff unrhyw addasiadau rhesymol eu hargymell a’u trefnu cyn penodi.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r holl wiriadau cyn cyflogi, byddwch yn symud i gam nesaf y broses.
Ar gyfer swyddi mewn lifrai, byddwch yn cael lle gyda’r garfan nesaf sydd ar gael ac yn cael apwyntiad i fesur a ffitio lifrai.
Caiff ein hamcanion cydraddoldeb ac amrywiaeth eu gorfodi drwy Fwrdd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sefydledig. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau ein bod bob amser yn trin ein cydweithwyr a’r cyhoedd â thegwch, urddas a pharch.
Darperir ein rhaglen cymorth i weithwyr gan CareFirst ac am ddim i bawb ac mae ar gael 24 awr y dydd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhaglen yn darparu cymorth cyfrinachol ar gyfer problemau a all effeithio ar berfformiad, iechyd, a lles meddyliol ac emosiynol.
Mae gennym ni Uned Iechyd a Lles Galwedigaethol i’ch helpu i gynnal eich iechyd corfforol a seicolegol wrth weithio. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol ac yn cynnwys gwasanaeth cwnsela.
Nod y tîm Iechyd Galwedigaethol yw cefnogi presenoldeb ac effeithiolrwydd drwy weithio’n rhagweithiol i leihau risgiau iechyd ac annog pobl i fod yn gyfrifol am eu hiechyd, eu ffitrwydd a’u lles eu hunain. Rydych chi hefyd yn gymwys i gael prawf llygaid am ddim.
Mae llawer o dimau chwaraeon i chi ymuno â nhw, gan gynnwys rhedeg, hoci, pysgota a phêl-droed. Mae cyfleusterau campfa am ddim hefyd mewn nifer o’n safleoedd.
Mae gennym ni bolisi absenoldeb mamolaeth alwedigaethol llawn ar gael i holl weithwyr Heddlu Gwent. Cyfanswm o 52 wythnos o amser mamolaeth: 18 wythnos ar gyflog llawn, 21 wythnos o dâl mamolaeth statudol, a 13 wythnos o ddim cyflog. Mae hyn yn amodol ar hyd gwasanaeth. Mae gennym ni hefyd bolisi absenoldeb ar gyfer mabwysiadu.
Mae amrywiaeth o gymdeithasau, rhwydweithiau a grwpiau sy’n cynorthwyo ein gweithlu ac mae gan Heddlu Gwent ystod o fentrau a chynlluniau i helpu cyd-weithwyr i ddatblygu.
Mae ein rhwydweithiau staff yn cynnig cymorth a chyfeillgarwch i’n swyddogion, y staff a’r gymuned leol. Maen nhw’n gweithio i gynorthwyo a chynghori cydweithwyr yn genedlaethol ac rydym yn falch o’r rhan weithredol sydd ganddyn nhw o ran dylanwadu ar blismona ledled y DU.
Mae’r rhwydweithiau a’r cymdeithasau yn cynnwys:
Dim ond Swyddogion yr Heddlu all ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu, os ydych chi’n penderfynu ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu, gallwch ddewis ymuno â chynllun yswiriant bywyd a’r dyfarniadau yn daladwy i’ch priod neu’ch partner, ac i unrhyw ddibynyddion. Yn ogystal â gallu cael yswiriant salwch ac afiechyd hanfodol, gallwch gael yswiriant, ar gost ffafriol, i dalu am unrhyw dreuliau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’ch swydd, a gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfleusterau adsefydlu gorau.
I hybu teithiau iachus i’r gwaith, mae Heddlu Gwent a Cycle Solutions wedi gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cyfle i staff a swyddogion gael gostyngiad mawr oddi ar bris beic ac offer diogelwch, gan wasgaru’r gost dros 18 mis.
Gostyngiadau sefydliadol a ffordd o fyw gan gynnwys aelodaeth i gampfeydd (yn ogystal â champfeydd ar y safle), bwytai, prydau parod, teithio, cynhyrchion ariannol, cynllun gofal llygaid a mwy.
Pan fyddwch yn ymuno â Heddlu Gwent, byddwn yn sicrhau bod ystod eang o fuddion ar gael i chi.
Staff yr heddlu:
Swyddogion yr heddlu:
Gall cyflogeion ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, sy’n gynllun pensiwn cyfrannol.
Ewch i Gynllun Pensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen) am ragor o wybodaeth.
Mae Heddlu Gwent yn sylweddoli pwysigrwydd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac mae ganddo bolisïau da ar gyfer mamolaeth/tadolaeth, absenoldeb rhiant a rennir, amser i ofalu am y rhai sy’n dibynnu arnoch, gostyngiad gwirfoddol mewn oriau gwaith, yr hawl i wneud cais i weithio’n hyblyg ac i rannu swydd.
Yn dibynnu ar y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani, bydd oriau gwaith amrywiol. Bydd rhai swyddi, fel y rhai yn ein Hystafell Gyfathrebu, er enghraifft, ar batrwm sifftiau sefydlog, tra bod gan lawer o swyddi swyddfa (hyd at swyddi prif swyddogion) y fantais o weithio oriau hyblyg a gweithio ystwyth.
Mae hyblygrwydd yn dibynnu ar y swydd.
Os oes gennych chi gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost atom.
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a X i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses recriwtio a gweithgareddau'r heddlu yn eich ardal chi.