Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall lladron ddwyn eich ffôn i gael mynediad at eich cyfrifon banc a’ch data personol yn ogystal ag ar gyfer y ddyfais ei hun.
Darganfyddwch sut i amddiffyn eich hun rhag lladrad ffôn symudol, a sut i osod eich ffôn i osgoi colled bellach os caiff ei ddwyn.
I helpu i gadw’ch ffôn llaw a’ch data yn ddiogel dilynwch yr awgrymiadau hyn:
Os nad yw eich ffôn wedi’i ddiogelu’n dda a’i fod yn cael ei ddwyn neu ei golli, gallai lladron gael mynediad at eich apiau bancio, mynd i mewn i gyfrifon personol, a hyd yn oed dwyn eich hunaniaeth.
Ystyriwch a oes angen i apiau sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol sensitif, megis apiau bancio, fod ar eich ffôn o gwbl. Efallai y byddai’n well cadw rhai ar ddyfais llechen neu ddyfais arall nad ydych chi’n ei chario o gwmpas gyda chi fel arfer.
Dewiswch PIN, cod pas, cyfrinair neu batrwm cryf, neu defnyddiwch ddilysiad biometrig, megis ID Wyneb neu Olion Bysedd. Mae cyfrineiriau’n anoddach i’w ‘syrffio dros ysgwydd’ na chodau PIN byr.
Gosodwch y clo awtomatig i actifadu ei hun ar ôl cyfnod byr o amser.
Ar gyfer iPhone, defnyddiwch ‘Stolen Device Protection’ i atal gosodiadau diogelwch allweddol eich ffôn rhag cael eu newid os caiff ei ddwyn.
Cuddiwch apiau megis apiau bancio mewn ffolderi cudd drwy:
Gallwch gael canllawiau pellach ar sut i wneud hyn yn Apple Support (DU).
Ar gyfer ffonau Android, defnyddiwch ‘Theft Detection Lock’ i actifadu nodwedd synhwyro symudiad eich dyfais. Bydd eich ffôn yn cloi’n awtomatig os yw’n canfod symudiad anarferol, er enghraifft, os caiff ei gipio.
Gallwch hefyd guddio apiau mewn ffolderi diogel. Mae hyn yn caniatáu i’r ffolder gael ei chloi gyda chod pas gwahanol i’r ddyfais ei hun. Mae canllawiau pellach ar sut i wneud hyn ar dudalennau cymorth gwneuthurwr eich ffôn.
Gall rhif IMEI (International Mobile Equipment Identity) eich ffôn helpu i adnabod eich ffôn os caiff ei golli neu ei ddwyn. Gallwch gael y rhif IMEI drwy deipio *#06# ar fysellbad eich ffôn. Cadwch nodyn ohono yn rhywle heblaw am ar eich ffôn.
Bydd hyn yn sicrhau bod gan eich dyfais a’ch apiau y gosodiadau diogelwch diweddaraf. Gallwch osod eich ffôn i ddiweddaru’n awtomatig yn y ddewislen gosodiadau.
Fe allech ystyried gosod ap olrhain ar eich ffôn fel y gallwch weld ei leoliad o ddyfais arall megis gliniadur. Defnyddiwch ef cyn gynted â phosibl, cyn i ladron gael cyfle i’w analluogi.
Diffoddwch ragolygon negeseuon, fel na fydd lladron yn gweld unrhyw negeseuon am godau ailosod neu fewngofnodi pan fydd eich ffôn wedi’i gloi.
Diogelwch apiau gwerth uchel, megis apiau bancio a waledi digidol, y tu ôl i ddulliau adnabod biometrig. Neu defnyddiwch gyfrineiriau cryf nad ydych yn eu defnyddio ar gyfrifon eraill. Peidiwch byth â storio’r cyfrineiriau hyn ar ffeil ‘nodyn’ ar eich ffôn lle gallai lleidr ddod o hyd iddynt.
Gwnewch yn siŵr:
Gweler tudalennau cymorth eich dyfais i gael cymorth gydag olrhain lleoliad dyfais, adfer cyfrifon a gosodiadau rhagolwg negeseuon.
Tudalennau cymorth Apple ar gyfer iPhone
Tudalennau cymorth Google ar gyfer ffonau Android
Gallwch hefyd gyfeirio at wefan gwneuthurwr eich ffôn i gael cymorth.
Efallai y bydd eich data personol mewn perygl. Mae’n bwysig eich bod yn gweithredu’n gyflym.
Rhowch wybod i ni am y drosedd cyn gynted ag y gallwch.
Os ydych wedi cael eich anafu, yn teimlo’n anniogel neu os yw’r drosedd newydd ddigwydd ffoniwch 999.
Gallwch hefyd roi gwybod i ni am y drosedd ar-lein. Neu ffoniwch 101 ar gyfer achosion nad ydynt yn argyfwng.
Cynhwyswch fanylion eich dyfais (megis y rhif IMEI) yn eich adroddiad yn ogystal ag unrhyw drafodion twyllodrus.
Dylech:
Cadwch lygad am weithgarwch anarferol yn unrhyw un o’ch cyfrifon banc sy’n gysylltiedig â’ch ffôn. Mae hyn yn cynnwys trafodion na wnaethoch chi eu gwneud neu hysbysiadau e-bost am fewngofnodi i gyfrif.
Os ydych chi’n amau bod rhywun wedi dwyn eich manylion, dylech chi roi gwybod i’ch banc ar unwaith. Dylech hefyd newid y cyfrineiriau ar gyfer apiau.
Gall eich banc ad-dalu unrhyw drafodion a wneir ar ôl i’ch ffôn gael ei riportio wedi’i ddwyn.