Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma gynghorion er mwyn helpu i atal eich cwch neu ei gynnwys rhag cael ei ddwyn ac atal mân droseddau a fandaliaeth.
Mae larymau ceir wedi’u seilio ar weithrediad 12VDC ac mae hynny hefyd yn wir am y mwyafrif o’n cychod. Gosodwch system larwm o ansawdd da, gyda rhybudd, er mwyn atal lleidr sy’n manteisio ar gyfle. Bydd yr unedau gorau yn anfon neges at berchnogion os bydd problem gyda diogelwch.
Gosodwch draciwr GPS: mae’r unedau mwyaf soffistigedig yn rhoi gwybod i chi a’r heddlu os bydd eich cwch yn symud.
Analluogwch eich motor.
Clymwch eich cwch â chadwyn i’r angorfa mewn ardaloedd trefol er mwyn rhwystro pobl rhag ei hwylio i ffwrdd. Gallwch ddefnyddio cadwyn neu raff ddur a chlo clap. Mae clymwyr cebl cryf hefyd yn gweithio os byddwch yn clampio rhaffau gyda’i gilydd yn agos i glymbyst a stydiau T.
Gosodwch giardiau ar ffenestri a bariau ar draws drysau mynediad.
Uwchraddiwch yr holl gloeon i’r ansawdd gorau sydd ar gael a chaewch pob hatsh a drws gyda hasbiau mewnol cryf.
Defnyddiwch gloeon clap silindr, fel y rheini a ddefnyddir ar faniau diogelwch, sy’n anoddach i’w hagor na chlapiau clo arferol.
Gosodwch deledu cylch cyfyng.
Gosodwch oleuadau diogelwch PIR.
Gosodwch dap tanwydd sy’n cloi neu larwm tanc i warchod y tanwydd yn eich tanc.
Peidiwch â gadael offer gwerthfawr ar y to.
Clowch feiciau gyda chadwyni.