Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall trosedd ac ofn trosedd effeithio ar broffidioldeb eich busnes. Bydd ymuno â phartneriaeth yn eich helpu i leihau dwyn o siop ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a hefyd dwyn oddi ar eich cwsmeriaid. Y fantais ychwanegol yw y bydd yn eich grymuso chi, eich gweithwyr a’ch partneriaid, gan helpu i addysgu a rhoi mwy o dawelwch meddwl i bawb.
Mae gwahanol fentrau atal troseddu sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn helpu i frwydro troseddu yn erbyn busnesau. Edrychwch ar y rhestr isod i weld pa rai sydd fwyaf addas ar gyfer anghenion eich busnes. Drwy fod mewn cysylltiad cyson â busnesau eraill - rhannu gwybodaeth a syniadau - byddwch wedi’ch diogelu’n well.
Corff a arweinir ac a ariannir gan fusnesau yw Ardal Gwella Busnes a ffurfiwyd i gynrychioli a gwella ardal fasnachol ddiffiniedig. Gall fod yn offeryn pwerus ar gyfer cynnwys busnesau yn uniongyrchol mewn gweithgareddau lleol, a chaniatáu i’r gymuned fusnes ac awdurdodau lleol i gydweithio er mwyn gwella’r amgylchedd masnachu lleol.
Ar gyfer perchnogion busnes, golyga hyn eich bod yn rhan o sefydliad cydlynus sy’n canolbwyntio ar eich buddiannau chi, ac a fydd yn eich cadw’n wybodus am, ac yn rhan o, fentrau lleol sydd wedi’u cynllunio i gynnal amgylchedd diogelach.
Menter a arweinir gan fusnesau yw Police and Security sydd wedi’i bwriadu i symleiddio a gwella cydweithredu, cyfathrebu, cydgysylltu, ymddiriedaeth ac adborth rhwng yr heddlu a’r diwydiant diogelwch preifat.
Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn diweddariadau rheolaidd gan hyb PaS, cofrestrwch ar-lein er mwyn derbyn gwybodaeth a diweddariadau wythnosol.
Cynllun gwirfoddol yw Pubwatch sy’n caniatáu i ddeiliaid trwydded gydweithio i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig â chamddefnydd alcohol a sylweddau, gan wella diogelwch eu heiddo ar gyfer cwsmeriaid, staff a’r gymuned leol.
Bydd ymuno â chynllun rhannu radio yn rhoi mynediad uniongyrchol i chi i rwydwaith radio, sy’n cael ei monitro gan swyddogion heddlu lleol, ystafelloedd teledu cylch cyfyng a busnesau eraill, gan olygu y gall rhybudd am weithgarwch troseddol gael ei gyfathrebu’n effeithiol rhwng aelodau.
Cynllun ardystiad gan yr heddlu yw Secured Environments a roddir i sefydliadau sy’n gallu dangos eu bod wedi mabwysiadu chwe egwyddor allweddol ar gyfer diogelu eu hunain yn erbyn troseddu.