Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os byddai’n well gennych beidio â siarad â’r heddlu neu os hoffech gyngor mwy penodol, mae’r grwpiau a’r mudiadau elusennol hyn hefyd yn cynnig gwybodaeth a chymorth.
Action Fraud
Action Fraud yw’r ganolfan riportio genedlaethol ar gyfer twyll a seiberdroseddu.
0300 123 2040
Action on Elder Abuse (AEA)
Mae AEA yn elusen genedlaethol sy’n gweithio i ddiogelu ac atal oedolion hŷn sy’n agored i niwed rhag cael eu cam-drin.
0808 808 8141
Age UK
Yn darparu cwmnïaeth, cyngor a chefnogaeth i filiynau o oedolion hŷn.
0800 169 6565
Cymdeithas Asiantau Teithio Prydain (ABTA)
Y gymdeithas deithio fwyaf yn y DU gyda dros 1,200 o aelodau. Rhaid i holl aelodau ABTA ddilyn cod ymddygiad llym neu wynebu dirwy neu ddiddymu aelodaeth.
020 3117 5599
Cyngor ar Bopeth
Cyngor annibynnol, cyfrinachol, rhad ac am ddim i helpu i ddatrys eich problemau cyfreithiol ac ariannol a phroblemau eraill.
0345 404 0506
Cyber Aware
Mae Cyber Aware yn cynnig cyngor seiber-ddiogelwch i fusnesau bach ac unigolion.
cyberaware.gov.uk
Ffederasiwn Busnesau Bach
Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn cynnig ystod eang o wasanaethau busnes hanfodol i’w aelodau, gan anelu at helpu busnesau llai i gyflawni eu huchelgeisiau.
Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Canfod a dewis ymgynghorydd ariannol, neu i gadarnhau os yw eich ymgynghorydd wedi’i awdurdodi.
0845 606 1234
Get Safe Online
Get Safe Online yw’r ffynhonnell fwyaf poblogaidd yn y DU o wybodaeth sy’n hawdd ei deall am ddiogelwch ar-lein.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Rôl y Comisiynydd Gwybodaeth yw cynnal hawliau gwybodaeth er budd y cyhoedd.
Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol sy’n arwain ymgyrch y broses o orfodi’r gyfraith yn y DU i leihau troseddau difrifol a throseddu cyfundrefnol.
Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn rhan o GCHQ ac yn brif awdurdod y DU ar seiberddiogelwch.
No More Ransom
Bwriad safle No More Ransom yw helpu dioddefwyr meddalwedd wystlo i gael eu data sydd wedi’i amgryptio yn ôl heb orfod talu’r troseddwyr.
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG)
Yr OPG sy’n gyfrifol am ddiogelu pobl nad oes ganddyn nhw bellach y gallu i wneud penderfyniadau penodol drostyn nhw eu hunain.
0300 456 0300
Cymdeithas Chwilio-am-gariad Ar-lein (ODA)
Mae gwasanaethau chwilio-am-gariad sy’n aelodau o’r ODA yn cadw at god safonau llym neu mewn perygl o ddiddymu eu haelodaeth.
Llinell Gymorth Sgamiau Y Post Brenhinol
Cymorth a chyngor os ydych chi wedi derbyn eitemau yn y post sy’n dwyllodrus yn eich barn chi.
0845 611 3413
Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE)
Elusen annibynnol sy'n gweithio gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol i oedolion, teuluoedd a phlant ledled y DU i rannu gwybodaeth am yr hyn sy'n gweithio.
020 7024 7650
Cymdeithas yr Asiantau a Gwerthwyr Tocynnau (STAR)
Corff hunan-reoli blaenllaw ar gyfer y diwydiant tocynnau adloniant yn y DU, sy’n cynnig cyngor, gwybodaeth a gwasanaethau datrys anghydfodau.
019 0423 4737
Y Gwasanaeth Dewis Post (MPS)
Gwasanaeth rhad ac am ddim sydd wedi’i gefnogi gan y Post Brenhinol gan alluogi cwsmeriaid y DU i dynnu eu henwau a'u cyfeiriadau cartref oddi ar restrau postio a ddefnyddir gan y diwydiant.
020 7291 3300
The Silver Line
Llinell gymorth gyfrinachol 24 awr rhad ac am ddim sy'n cynnig cwmnïaeth, gwybodaeth a chyngor i bobl hŷn.
0800 470 8090
Y Gwasanaeth Dewis Ffôn (TPS)
Gwasanaeth rhad ac am ddim i gofnodi eich dewis i beidio â derbyn galwadau gwerthu neu farchnata digymell.
0800 398 893
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi datgelu sgam, wedi cael eich targedu gan sgam neu wedi dioddef yn sgil twyllwyr, darllenwch sut i riportio twyll fan hyn.
Mae riportio trosedd, gan gynnwys twyll, yn bwysig. Os na fyddwch yn dweud wrth yr awdurdodau, sut maen nhw'n gwybod fod y peth wedi digwydd a sut allan nhw wneud unrhyw beth amdano?
Cofiwch, os ydych wedi dioddef sgam neu ymgais i sgamio, waeth pa mor fach, efallai y bydd cannoedd neu filoedd o bobl eraill mewn sefyllfa debyg. Efallai y bydd eich gwybodaeth yn rhan o un jig-so mawr ac yn hollbwysig i gwblhau'r darlun.