Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ystyr cam-drin sy’n gysylltiedig â ffydd neu gred yw pan fo pryderon am lesiant plentyn wedi’u nodi, ac y gallai’r rheiny fod wedi’u hachosi gan gred mewn dewiniaeth neu mewn meddiant gan ysbrydion neu gythreuliaid, nodweddion camdriniaeth ddefodol neu satanaidd; neu pan fo arferion sy’n gysylltiedig â ffydd neu gred yn niweidiol i blentyn.
Mae unrhyw gam-drin sy’n digwydd yn erbyn y rhai sy’n cael eu cyhuddo (neu eu labelu) naill ai fel gwrachod neu fel rhai sydd wedi’u meddiannu gan ysbryd drwg yn annerbyniol. Gall niwed arwyddocaol (gan gynnwys llofruddiaeth) ddigwydd oherwydd ymdrechion ar y cyd i ‘fwrw drygioni allan’ neu ‘achub’ plentyn (neu oedolyn sy’n agored i niwed) rhag drwg
Ar sail ein profiad ni’n hunain ac mewn ymgynghoriad â chymunedau, rydym yn gwybod nad yw’r math hwn o gamdriniaeth yn cael ei riportio’n ddigon aml.
Gall sylwi ar arwyddion bod y cam-drin hwn yn bod ei atal rhag gwaethygu o niwed ‘cynnil’ sydd yn aml yn mynd heb ei weld gan lawer, i sefyllfaoedd ‘eithafol’ lle mae bywydau’n cael eu colli. Mae cred mewn dewiniaeth yn cael ei defnyddio i feio person (yn hytrach nag amgylchiadau) am anffawd sy’n digwydd mewn bywyd.
Mae’r mathau o gam-drin sy’n dilyn yn dod o dan y pedwar prif gategorïau a nodir isod.
Gallai hyn gynnwys curo, llosgi, torri, trywanu, rhannol grogi, clymu plentyn, neu rwbio pupurau tsili neu sylweddau eraill ar organau rhywiol neu lygad y plentyn fel rhan o ddefod.
Gall cam-drin emosiynol ddigwydd ar ffurf ynysu. Efallai na fydd plentyn yn cael mynd yn agos i, neu rannu ystafell gydag, aelodau o’r teulu, ac y caiff ei fygwth gyda chael ei adael. Efallai hefyd y perswadir y plentyn ei fod wedi’i feddiannu.
Mewn sefyllfaoedd o esgeulustod, efallai y bydd teulu a chymuned y plentyn wedi methu â sicrhau gofal meddygol, goruchwyliaeth, addysg, hylendid da, maeth, dillad neu gynhesrwydd digonol.
Gall plant sydd wedi’u targedu yn y modd hwn fod yn arbennig o agored i niwed gan rai sy’n cyflawni troseddau cam-drin rhywiol o fewn teulu, cymuned neu sefydliad ffydd. Mae’r bobl hyn yn camddefnyddio’r gred fel math o reolaeth neu fygythiad.
Nid yw cam-drin plant sy'n gysylltiedig â ffydd neu gred wedi’i gyfyngu i un ffydd, cenedl na chymuned ethnig. Mae enghreifftiau wedi’u cofnodi’n fyd-eang ar draws amrywiaeth o grefyddau yn cynnwys gan Gristnogion, Mwslimiaid a Hindŵiaid.
Mae nifer yr achosion y gwyddom amdanynt yn awgrymu mai dim ond lleiafrif bychan o bobl sy’n credu mewn dewiniaeth neu feddiannu’r enaid sy’n mynd ymlaen i gam-drin plant ac oedolion.
Gall y cam-drin ddigwydd yn unrhyw le, ond mae’n digwydd yn fwyaf cyffredin yng nghartref y plentyn.
Gall ystod o ffactorau gyfrannu at blentyn yn cael ei gam-drin am resymau ffydd neu gred. Mae ychydig o’r rhai mwyaf cyffredin wedi’u nodi isod.
Yn aml bydd y gred y gall ysbrydion aflan ‘feddiannu’ plant gyd-fynd â chred y gall plentyn sydd wedi’i feddiannu ‘heintio’ pobl eraill gyda’r cyflwr. Gallai hyn fod drwy gysylltiad gyda bwyd a rennir, neu yn syml fod ym mhresenoldeb y plentyn.
Gallai plentyn gael ei nodi fel achos anffawd yn y cartref, megis trafferthion ariannol, ysgariad, anffyddlondeb, salwch neu farwolaeth.
Weithiau priodolir ymddygiad drwg neu annormal i rymoedd ysbrydol. Mae enghreifftiau yn cynnwys plentyn yn bod yn anufudd, gwrthryfelgar, gor-annibynnol, gwlychu’r gwely, cael hunllefau neu’n mynd yn sâl.
Gallai plentyn gael ei nodi am fod â gwahaniaeth corfforol neu anabledd. Mae’r achosion sydd wedi’u cofnodi yn cynnwys plant ag anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl, epilepsi, awtistiaeth, atal dweud, byddardod ac LHDTC+.
Os oes gan blentyn ddawn benodol, weithiau gall hyn gael ei resymoli fel canlyniad i feddiannu neu ddewiniaeth. Gallai hyn hefyd fod os yw’r plentyn yn dod o feichiogrwydd lluosog neu anodd.
Mae ymchwil yn awgrymu bod plentyn sy’n byw gyda theulu estynedig, rheini anfiolegol, neu rieni maeth mewn mwy o berygl. Yn y sefyllfaoedd hyn mae’n fwy tebygol o fod wedi’i fasnachu a’i wneud i weithio fel caethwas.
Mae arwyddion o gam-drin plant sy’n gysylltiedig â ffydd neu gred yn cynnwys y canlynol:
AFRUCA: Affricaniaid yn Uno yn erbyn Cam-drin Plant
Elusen yn y DU sy’n eiriol dros hawliau a lles plant Affrica.
Canolfan FGM Genedlaethol Barnardo's
Mae hon yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o CALFB. Mae’n cynnwys beth yw CALFB, goblygiadau ar gyfer iechyd, y cyfiawnhad drosto, y gyfraith ac arwyddion y gallai plentyn fod mewn perygl.
Canolfan Cynghori ar Fasnachu Plant (CTAC)
Tîm sy’n rhoi cyngor i weithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am ddiogelu plant rhag cael eu masnachu.
Thirtyone:eight
Elusen Gristnogol annibynnol sy’n helpu unigolion, sefydliadau, elusennau, grwpiau ffydd a grwpiau cymunedol i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed rhag camdriniaeth.
Ffôn: 0207 735 8941
Rhwydwaith Gwybodaeth Dewiniaeth a Hawliau Dynol
Mae gwaith y WHRIN yn caniatáu mwy o ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r materion cymhleth hyn fel y gellir datblygu atebion i atal rhagor o droseddau yn erbyn hawliau dynol rhag digwydd
Canllawiau Cenedlaethol i Ysgolion ar Ddiogelu (wedi’u datblygu gan wasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd)
Yn y ddogfen ‘The Guidance for Schools and Colleges: Safeguarding Children from Sexual Violence, CSE and Harmful Practices’ mae yna bennod ar CALFB.
Siarter Ysgolion ar Ddiweddu Arferion Niweidiol
Mae’r Siarter Ysgolion hon yn hybu cyfraniadau o safon sy’n canolbwyntio ar ddiogelu rhag arferion niweidiol.