Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Pan fo rhywun yn defnyddio plentyn (o dan 18 oed) i gyflawni troseddau iddyn nhw, gelwir hyn yn gamfanteisio troseddol ar blant.
Mae’n cynnwys pethau fel gorfodi plentyn i weithio ar fferm ganabis, neu hudo plentyn i werthu cyffuriau ar weithrediadau llinellau cyffuriau.
Gall camfanteisio troseddol ar blant gynnwys llwgrwobrwyo, trais neu fygwth. Does dim rhaid i’r plentyn fod wedi cyfarfod y sawl sy’n camfanteisio arnyn nhw – gellir camfanteisio ar blant drwy’r rhyngrwyd neu drwy ddefnyddio ffonau symudol.
Gellir camfanteisio ar blentyn er ei fod yn ymddangos eu bod wedi cyflawni’r drosedd o’u gwirfodd.
Gall unigolion neu grwpiau, dynion neu ferched, oedolion a phobl ifanc gamfanteisio ar blant.
Mae pobl sy’n camfanteisio ar blant yn defnyddio’r ffaith bod ganddyn nhw bŵer dros y plentyn, oherwydd gwahaniaeth oedran neu ryw ffactor arall fel rhywedd, deallusrwydd, cryfder, statws neu gyfoeth.
Gall unrhyw blentyn fod yn destun camfanteisio troseddol ar blentyn. Ond mae’r ffactorau risg yn cynnwys:
Arwyddion i fod yn ymwybodol ohonyn nhw:
Gallai unrhyw newid sydyn yn ffordd o fyw person ifanc fod yn arwydd o gamfanteisio troseddol a dylech siarad â nhw ynglŷn â hynny.
Gall fod yn bryderus iawn os ydych chi’n adnabod rhywun sydd mewn gang neu sydd efallai’n dioddef camfanteisio. Does dim rhaid i chi ymdopi â phethau ar eich pen eich hun.
Gallwch wneud y pethau canlynol:
Cyngor i rieni a gwarcheidwaid
Math o gam-drin plant yw camfanteisio troseddol ar blentyn.
Cyngor ynglŷn â cham-drin plant i rieni, gwarcheidwaid a gweithwyr proffesiynol
Rhoi gwybod am gamfanteisio troseddol posibl ar blentyn
Os ydych yn amau bod rhywun yn camfanteisio ar blant yn droseddol, neu os ydych yn meddwl bod rhywun rydych chi’n eu hadnabod wedi bod yn ddioddefwr neu'n debygol o fod, dysgwch sut i riportio cam-drin plant posibl.
Os yw rhywun mewn perygl uniongyrchol ac angen help brys ffoniwch 999 nawr. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMS brys.
Help a chefnogaeth
Parents Against Child Exploitation (Pace)
Cefnogaeth i rieni a gofalwyr plant mae troseddwyr yn camfanteisio arnyn nhw.
Sefydliadau eraill sy’n rhoi cymorth i blant sydd wedi cael eu cam-drin