Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn gorff cyhoeddus sy’n cynnal gwiriadau ar eich cofnodion troseddol. Mae gwiriadau DBS yn helpu cyflogwyr i benderfynu a ydych yn addas i weithio i’w busnes. Mae hyn yn cynnwys penderfynu a ydych yn ddiogel i weithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed, er enghraifft.
Os ydych chi wedi bod yn aros am dros 60 diwrnod ar gyfer eich cais DBS, darganfyddwch isod sut i wirio ei statws.
Y ffordd gyflymaf a hawsaf o wirio statws eich cais DBS yw trwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein llywodraeth y DU.
Os cewch unrhyw drafferth i ddefnyddio gwasanaeth ar-lein uchod y llywodraeth, ffoniwch dîm gwasanaeth cwsmeriaid y DBS ar 03000 200 190 (03000 200 191 ar gyfer y Gymraeg). Dylent allu eich diweddaru ar sut mae'ch cais DBS yn dod yn ei flaen.
Gellir cysylltu â thîm gwasanaeth cwsmeriaid y DBS hefyd drwy:
Mae ‘gwiriadau DBS manylach’ yn wiriadau y mae’n rhaid iddynt hefyd gael eu hadolygu gan heddluoedd lleol fel rhan o’r gwasanaeth datgelu. Gall hyn ychwanegu at yr amser y mae’n ei gymryd i brosesu’ch cais.
Mae gennym darged uwchgyfeirio 60 diwrnod i adolygu gwiriadau DBS manylach. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod rhai ceisiadau yn cymryd hyd at 100 diwrnod. Mae hyn yn bryder difrifol i ni ac rydym yn deall yr effaith y gall hyn ei chael ar ymgeiswyr a chyflogwyr.
Ymddiheurwn am yr oedi hwn. Rydym yn gweithio mor gyflym â phosibl i wella amseroedd prosesu ar gyfer gwiriadau DBS manylach.
Fodd bynnag, ym mhob achos, tîm gwasanaeth cwsmeriaid y DBS yw eich pwynt cyswllt, nid ni. Defnyddiwch y manylion cyswllt o dan ‘Cysylltu â thîm y DBS’.