Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi bod yn gyrru ers blynyddoedd lawer, bydd eich profiad yn eich helpu i ymdrin â phob math o faterion ar y ffordd. Er hynny, dros amser efallai y byddwch chi hefyd wedi magu arferion drwg, neu efallai eich bod wedi datblygu cyflwr meddygol neu yn cymryd meddyginiaeth a allai effeithio ar eich sgiliau gyrru.
Ar bob cyfnod yn eich bywyd fel gyrrwr, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn ffit i yrru.
Darllenwch y cyngor hwn ar beth i chwilio amdano a sut i gadw chi’ch hun a phobl eraill yn ddiogel ar y ffordd.
Os ydych chi'n poeni y gallech fod wedi magu arferion drwg dros y blynyddoedd neu os hoffech chi ailasesu’ch sgiliau gyrru, gallwch fynd ar gwrs asesu gyrwyr.
Byddwch yn mynd allan yn eich car eich hun gyda gyrrwr arbenigol, a all eich helpu i weld eich cryfderau a'ch gwendidau a'ch cadw i yrru'n ddiogel ac yn hyderus.
Os oes gennych broblem symudedd neu os ydych chi'n gwella o anaf, gall asesiad gyrrwr manylach gan ganolfan symudedd roi cyngor ichi ar addasiadau y gallwch eu gwneud i'ch car i wneud gyrru'n fwy diogel ac yn haws ichi.
Chwiliwch am gwrs asesu gyrwyr yn agos atoch chi:
Rhagor o wybodaeth am y cyflyrau meddygol a allai effeithio ar eich gyrru a sut i roi gwybod am gyflwr meddygol i'r DVLA.
Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os na fyddwch chi'n dweud wrth y DVLA bod gennych chi un o'r cyflyrau hyn.
Os oes gennych chi bryderon diogelwch am aelodau o’ch teulu neu ffrindiau sy'n gyrru gyda chyflwr meddygol, ceisiwch siarad â nhw ac egluro pam rydych chi'n poeni. Os na fydd hyn yn gweithio, gallwch chi ddweud wrth y DVLA am eich pryderon.
Rydych chi hefyd yn gallu riportio gyrru peryglus neu anniogel.
Daw eich trwydded bresennol i ben pan fyddwch yn cyrraedd 70 oed ac wedyn rhaid ichi ei hadnewyddu bob tair blynedd. Cewch adnewyddu’ch trwydded am ddim. Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy'r post.
Does dim oedran cyfreithiol pan mae'n rhaid rhoi'r gorau i yrru. Cewch chi benderfynu eich hun pryd i stopio, ond mae'n bwysig iawn cadw eich hun a phobl eraill yn ddiogel ar y ffordd. Gallai pethau fel cymryd mwy o amser i brosesu gwybodaeth neu ragweld peryglon fod yn arwyddion bod angen ichi gael asesiad o’ch sgiliau gyrru.