Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae angen i chi lenwi a llofnodi rhan un/adran A yr hysbysiad a’i ddychwelyd i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen o fewn 28 diwrnod.
Fel arfer wedyn, byddwch yn cael cynnig amodol o gosb benodedig, sef dirwy o £100 ac ychwanegu tri phwynt cosb at eich trwydded. Er hynny, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cwrs Cynllun Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru Cenedlaethol yn lle hynny.
Os na fyddwch yn ymateb i'r hysbysiad caiff eich achos ei gyfeirio i'r llys oherwydd i chi fethu â darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani i’r Heddlu.
Peidiwch ag anfon unrhyw daliad na'ch trwydded yrru at yr Heddlu.
Os ydych chi wedi cael eich recordio ar yr hyn sy’n cael ei ystyried yn gyflymder uchel caiff y digwyddiad ei atgyfeirio i’r llys yn y lle cyntaf. Bydd yn dal angen i chi ddychwelyd y ffurflen wedi’i llenwi ac unwaith y bydd wedi’i phrosesu byddwch yn derbyn gwŷs llys.
Mae angen ichi lenwi a llofnodi rhan un/adran A o'r hysbysiad a'i dychwelyd i'r cyfeiriad ar flaen y ffurflen o fewn 28 diwrnod.
Efallai y byddwch yn gymwys i wneud cwrs Cynllun Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru Cenedlaethol, ond os nad ydych, yna caiff y mater ei gyfeirio at y llys.
Efallai y byddwch yn gymwys i wneud cwrs Cynllun Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru Cenedlaethol:
Sylwch: Does dim hawl gyfreithiol i gael cwrs. Mae cwrs yn cael ei gynnig yn ôl disgresiwn yr heddlu yn unig, a does gan y llysoedd ddim pwerau ynglŷn â chyrsiau. Os cynigir cwrs ichi, mae'r heddlu'n rhydd i dynnu'r cynnig yn ôl unrhyw bryd hyd at y pwynt pan fo’r cwrs wedi'i gwblhau'n llwyddiannus.