Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r tudalen yma yn esbonio'r cymorth sydd ar gael ichi, a'r cyfrifoldebau sydd gennych, os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl. Os ydych chi'n ddeiliad tystysgrif arfau tanio, efallai y byddwch chi'n poeni am ddweud nad ydych chi'n teimlo'n iawn. Rydyn ni’n trin pob pryder mewn ffordd gefnogol ac amyneddgar. Peidiwch â bod ofn ceisio help – dyma'r peth iawn i'w wneud i chi, eich teulu, eich ffrindiau a'ch cymuned.
1. Mae'n fwy cyffredin nag rydych chi'n feddwl |
2. Gadewch inni gyd weithio gyda'n gilydd |
3. Eich cyfrifoldeb chi |
4. Rôl timau trwyddedu arfau tanio'r heddlu |
5. Ble i droi i gael help |
Mae 1 ym mhob 4 o bobl yn debygol o brofi hwyliau isel, iechyd meddwl gwael neu drallod yn ystod eu hoes. Deialog agored am sut rydych chi'n teimlo yw'r cam pwysicaf i'w gymryd wrth ddelio â'r syniadau hyn. O ran eu hiechyd meddwl eu hunain, mae ar aelodau o'r gymuned saethu angen perthynas gadarnhaol ac agored gyda phobl sy'n agos atyn nhw. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau a rhwydweithiau cymorth.
Gall iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un. Mae'n bwysig siarad am hyn a cheisio'r help sydd arnoch ei angen. Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl, ewch at eich meddyg teulu cyn gynted â phosibl.
Gall cyrff saethu ac amrywiol elusennau eraill roi mwy o gymorth. Hefyd, mae therapïau llafar neu seicolegol yn driniaethau effeithiol a chyfrinachol sy’n cael eu darparu gan weithwyr proffesiynol. Gallan nhw helpu os ydych chi'n cael trafferth gyda theimladau o iselder, pryder, gorbryder, PTSD, a chyflyrau eraill. Yng Nghymru a Lloegr, gallwch eich cyfeirio’ch hun at therapïau llafar neu gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at y cymorth cywir i chi.
Rhaid i bawb sy'n ymwneud â thrwyddedu arfau tanio gydweithio. Mae angen inni ddatrys pryderon, wrth inni drin pob mater mewn ffordd gefnogol ac amyneddgar.
Mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod y gallwch chi wneud gwahaniaeth wrth helpu i gadw pawb yn ddiogel.
Gall siarad â rhywun sy'n profi heriau iechyd meddwl, neu fod yn agored ynghylch eich heriau eich hun fod o fudd enfawr.
Os oes gennych dystysgrif, mae'n bwysig dweud wrth yr heddlu am gyflwr meddygol perthnasol. Mae canllawiau statudol trwyddedu arfau tanio y Swyddfa Gartref yn disgrifio hyn. Dyma'r peth iawn i'w wneud, i gadw pawb yn ddiogel.
Y flaenoriaeth i dimau trwyddedu arfau tanio yr heddlu yw sicrhau diogelwch y cyhoedd. Dyw hynny ddim yn golygu y bydd pob achos o iechyd meddwl gwael yn arwain at golli tystysgrifau. Os bydd rhaid i'r heddlu asesu unrhyw bryderon ynghylch deiliad tystysgrif, byddan nhw’n trin pob achos ar ei ben ei hun gyda gofal a chydbwysedd.
Bydd ar yr unigolyn angen cymorth, amser a lle. Bydd angen i'r heddlu asesu unrhyw risg i ddeiliad y dystysgrif, y bobl o'u cwmpas a'r cyhoedd ehangach. Efallai mai'r opsiwn mwyaf priodol yw cymryd rheolaeth dros gynnau unigolyn, dros dro.
I wneud penderfyniad gwybodus, bydd yr heddlu’n casglu gwybodaeth ac fe allen nhw siarad â’r canlynol:
Gallen nhw ysgrifennu at feddyg teulu'r unigolyn neu siarad â nhw, a hynny er mwyn cadarnhau unrhyw ddiagnosis meddygol, sut mae unrhyw salwch yn effeithio ar eu bywyd, a sut maen nhw'n ymdopi.
Ar ôl i'r heddlu asesu, gallan nhw benderfynu:
Gallwch gysylltu â ni ar-lein i gael help a chyngor ar yr holl faterion trwyddedu.
Mae yna lawer o sefydliadau sy'n gallu darparu help, cyngor a chefnogaeth.
Os ydych chi yng Nghymru: GIG Cymru
Os ydych chi yn Lloegr: GIG
Ymgyrch yn erbyn byw yn ddiflas - elusen sy'n ymroi i atal hunanladdiad ymysg gwrywod
Elusen sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl
Gwasanaeth negeseuon testun 24/7 am ddim, cyfrinachol i unrhyw un sy'n cael trafferth ymdopi
Tecstiwch ‘SHOUT’ i 85258
CALL (Cymru)
Llinell cynghori a gwrando cymunedol – gwasanaeth gwrando a chefnogi cyfrinachol
Sefydliad saethu yn y Deyrnas Unedig am gyngor arbenigol
Ymddiriedolaeth Lles y Ciperiaid
Cymorth i giperiaid, stelcwyr a dilynwyr, a’u dibynyddion ddoe a heddiw
Helpu amaethwyr trwy gymorth ymarferol, ariannol ac emosiynol