Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyn ichi werthu neu waredu arf tanio neu ddryll, mae rhai camau y mae angen ichi eu cymryd.
Rhaid ichi sicrhau bod gan y prynwr y caniatâd cywir i fod yn berchen ar yr arf tanio. Gwiriwch yr awdurdod ar eu tystysgrif arfau tanio.
Dylech chi ddangos diwydrwydd dyladwy trwy wneud gwiriadau i sicrhau bod tystysgrif arf tanio y prynwr yn ddilys.
Bydd eu tystysgrif yn nodi nifer, math a safon yr arfau tanio y cân nhw fod yn berchen arnyn nhw. Bydd hefyd yn nodi faint o fwledi neu getris y cân nhw fod yn berchen arnyn nhw.
Ar gefn tystysgrif y prynwr, bydd angen ichi lenwi:
Ar ôl i chi werthu'r arf tanio neu'r dryll mae angen ichi ddweud wrth yr heddlu a roddodd eich tystysgrif. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddefnyddio’n ffurflen trosglwyddo perchnogaeth.
Peidiwch byth â thaflu arfau i ffwrdd, gan y gallen nhw fynd i'r dwylo anghywir.
Os oes gennych chi arf tanio neu ddryll yr hoffech ei waredu, rhaid ichi wneud hynny yn un o'r ffyrdd canlynol.
Gallwch roi eich arf tanio neu’ch dryll i naill ai:
Ar ôl ichi wneud hyn, bydd angen ichi roi gwybod i ni trwy ddefnyddio’n ffurflen ar-lein.
Os hoffech chi ildio arf tanio neu ddryll i'r heddlu, gallwch ffonio 101 neu gysylltu â ni ar-lein. Byddwn yn dweud wrthoch chi am y ffordd orau i fynd ati.
Peidiwch â dod â'ch arf tanio i orsaf heddlu oni bai ein bod wedi gofyn ichi wneud hynny. Cadwch yr arf tanio yn ddiogel a pheidiwch â'i symud nes ichi gael cyfarwyddyd.
Peidiwch â phoeni os oes gennych chi arf na ddylai fod yn perthyn ichi. Rydych chi'n ymddwyn yn gyfrifol trwy ddewis ei ildio i ni. Fydd dim camau'n cael eu cymryd yn eich erbyn. Dim ond os ydych chi'n dewis cadw'r arf y byddwch chi’n mentro cael eich erlyn.