Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhaid i chi ddangos dull adnabod ffotograffig a bydd methu â gwneud hynny yn golygu y byddwch yn cael eich gwahardd o’r gwrandawiad.
Mae’n bosibl na fydd unrhyw un y credir ei fod yn peri risg diogelwch i’r heddlu yn cael bod yn bresennol.
Mae’r lleoliad a ddewiswyd wedi’i ddewis am nifer o resymau gan gynnwys parcio a mynediad i bobl anabl. Fodd bynnag, ni ellir gwarantu y gellir diwallu anghenion pob unigolyn ar bob achlysur.
Nid oes lluniaeth ar gael. Atgoffir y rheini sy’n dewis dod â’u lluniaeth eu hunain na cheir bwyta bwyd nac yfed yn ystafell y gwrandawiad.
Nid yw’r lleoliad yn addas ar gyfer anifeiliaid anwes o unrhyw fath ac eithrio cŵn tywys.
Ni chaniateir i bobl o dan 18 oed fynychu. Ni theimlir bod y lleoliad a’r achlysur yn addas ar gyfer pobl ifanc a gallai natur yr amgylchiadau a drafodir weithiau mewn gwrandawiadau achosi trallod.
Caniateir i swyddogion a staff heddlu fynychu dim ond os nad ydynt yn barti â diddordeb. Yn ogystal, rhaid i unrhyw bresenoldeb fod yn eu hamser eu hunain ac ar eu cost eu hunain. Anogir aelodau staff i beidio â mynychu er mwyn sicrhau cymaint â phosibl o le ar gyfer y cyhoedd.
Dylai aelodau’r cyhoedd fod yn ymwybodol y gallai’r sawl sy’n cadeirio’r gwrandawiad fod wedi penderfynu ymlaen llaw na ddylai rhannau ohono gael eu clywed yn gyhoeddus neu, yn ystod y gwrandawiad, ofyn i aelodau’r cyhoedd adael tra bod mater penodol yn cael sylw.
Rhaid i bob ffôn symudol gael ei ddiffodd neu ei dawelu yn ystafell y gwrandawiad. Ni chaniateir recordio sain na lluniau ar unrhyw adeg.
Gall unrhyw ymddygiad sy’n ymyrryd, neu sy’n debygol o ymyrryd â’r ffordd briodol o gynnal yr achos arwain at orfod gadael.