Mae amrywiaeth o bethau y gallwch eu gwneud i ddiogelu eich eiddo, eich tir a’ch da byw.
Ar y dudalen hon:
Diogelwch cyfarpar ac offer
Gall diogelwch cyfarpar ac offer fod yn broblem benodol i fusnesau a ffermydd gwledig.
I gadw eich eiddo’n ddiogel, dylech:
- gloi offer mewn adeilad diogel neu ran o adeilad pan nad yw'n cael ei ddefnyddio
- buddsoddi mewn bocs offer i’w storio’n ddiogel
- gosod larwm lladron ar adeiladau lle caiff yr offer eu cadw
- cloi cerbydau drwy’r amser pan gânt eu gadael y tu allan a chadw’r allweddi yn eich meddiant
- cadw eitemau a cherbydau drud o’r golwg pan nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio
- ystyried defnyddio cloeon bachyn tynnu, clampiau ar olwynion neu angorau daear
- marcio eich offer a’ch cyfarpar a’u cofrestru
- cadw cofnod o bob eitem werthfawr
- ystyried gosod goleuadau diogelwch tu allan
Diogelwch ystadau ac adeiladau
Mae sicrhau diogelwch o safon dda mewn adeiladau yn bwysig iawn mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig tai allan sydd o bosib heb weld unrhyw ymwelwyr am wythnosau ar y tro.
Mae ffermdai ac adeiladau gwledig eraill yr un peth ag unrhyw gartref arall, felly mae cyngor diogelwch cyffredinol y cartref yn dal i fod yn berthnasol. Serch hynny, oherwydd y lleoliad anghysbell, efallai y bydd mesurau diogelwch ychwanegol o fudd.
I ddiogelu eich cartref neu fusnes gwledig, dylech:
- gadw ffiniau eich tir a’ch eiddo yn ddiogel a gwneud yn siŵr eu bod wedi’u cynnal a’u cadw’n dda
- cadw’r holl ddrysau a ffenestri ar gau ac ar glo pan nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio
- gosod larwm lladron sy’n weladwy
- gwneud yn siŵr bod fframiau ffenestri a drysau yn ddiogel ac mewn cyflwr da
- gosod gloeon cryf ar siediau, garejis a thai allan
- gosod cloeon o ansawdd da ar ffenestri
- ystyried bariau a rhwyllau diogelwch ar ffenestri ac agoriadau sy’n agored i niwed
- gofalwch na all clwydi gael eu codi oddi ar y pyst ac na all y bolltau sy’n eu dal gael eu tynnu
- gwiriwch offer diogelwch yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn gweithio'n iawn
- defnyddiwch byst sy'n cloi neu rwystrau dros dro i reoli pwyntiau mynediad llydan i iardiau
Am ddiogelwch ychwanegol, gallech hefyd:
- osod goleuadau diogelwch awtomatig sy'n dod ymlaen wrth iddi fachlud ac yn diffodd ar doriad gwawr
- gosod camerâu teledu cylch cyfyng (TCC) i wylio ardaloedd o’r eiddo sydd fwyaf agored i niwed
- gosod system larwm tresmaswyr sy’n cael ei monitro
- gosod system rheoli mynediad is-goch, intercom neu fysellbad
- sefydlu mynedfa ac allanfa â gatiau sengl, gan gael gwared ar yr holl bwyntiau mynediad preifat nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio
Ffiniau
Edrychwch yn ofalus o amgylch ffiniau eich eiddo am unrhyw lefydd posib lle gellid ei wneud yn fwy diogel.
Dylech ystyried:
- plannu gwrychoedd llawn drain i weithredu fel rhwystr naturiol
- cloddio ffosydd dwfn i reoli ac atal mynediad diangen i gerbydau
- os yn bosibl, cael mynediad i'r eiddo drwy un gât yn unig
- defnyddio pyst cloi neu rwystrau dros dro i reoli agoriadau mawr
- gwrth-droi a chapio crogfachau giatiau
- sicrhau bod bolltau gosod yn ddiogel a defnyddio cloeon clap wedi'u gorchuddio
- gosod arwyddion rhybuddio
Ffensys trydan
Gall ffensys trydan fod yn darged hawdd i ladron gan eu bod yn aml mewn lleoliadau anghysbell i ffwrdd o'r fferm neu’r stabl.
Mae lladron yn eu dwyn am sgrap, neu’n eu cynnig ar farchnadoedd ail-law heb gyfarwyddiadau ar sut i’w defnyddio.
I ddiogelu eich ffens a’ch pwyntiau pŵer, dylech:
- farcio eich offer yn amlwg mewn sawl lle fel ffordd o atal lladrad, gan leihau ei werth a'i gwneud yn anoddach ei werthu os caiff ei ddwyn
- tynnu llun o’r uned a chofnodi math, model a rhif cyfresol, i helpu’r heddlu os caiff ei ddwyn
- gosod eich pwyntiau pŵer mewn man diogel cryf neu ei ddiogelu mewn cynhwysydd storio a wnaed yn unswydd ar ei gyfer
- cuddio neu guddliwio eich pwyntiau pŵer tu ôl i ffens neu goeden, mewn perth neu’n y prysgwydd
- gosod teclyn olrhain bach ar y pwyntiau pŵer
- gorchuddio’r golau pŵer gyda thâp
Mae pwyntiau pŵer sydd wedi’u dwyn yn cael eu gwerthu’n aml heb gyfarwyddiadau neu becynnau. Os ydych chi'n gweld eitem fel hyn, a'ch bod yn amheus ynglŷn â sut mae ar gael, riportiwch ar-lein.
Atal tân
- cael gwared ar sbwriel yn ddiogel ac yn rheolaidd
- tynnu gwair a gwellt o’r caeau cyn gynted â phosibl ar ôl cynaeafu a pheidio â'i storio ochr yn ochr â deunyddiau / cerbydau eraill
- storio petrol, diesel a mathau eraill o danwydd mewn ardaloedd diogel a rhoi clo clap ar y tanc storio bob amser
- gofyn am gyngor pellach wrth eich gwasanaeth tân lleol
Gweithgaredd anghyfreithlon
Dylid riportio pob achos o weithgaredd anghyfreithlon i'r awdurdod priodol cyn gynted â phosibl. Os gallwch chi, gwnewch nodyn o unrhyw fanylion am y cerbyd a disgrifiad o'r bobl dan sylw.
Dylech wastad ystyried eich diogelwch personol eich hun cyn mynd yn agosach at unrhyw un rydych chi'n meddwl allai fod yn gwneud rhywbeth anghyfreithlon.
Meddiannaeth anghyfreithlon
Fel tirfeddiannwr, eich cyfrifoldeb chi yw diogelu eich tir rhag meddiannaeth anawdurdodedig. Bydd sicrhau bod eich adeilad a'ch ffiniau'n ddiogel yn lleihau'r risg o feddiannaeth anawdurdodedig.
I helpu i ddiogelu eich tir, gallech:
- edrych yn ofalus ar y perimedr i sicrhau ei fod mor ddiogel â phosib
- ystyried defnyddio boncyffion coed mawr, creigiau, ffosydd a thwmpathau pridd o amgylch ffiniau i atal mynediad
- cyfyngu mynediad i gerbydau drwy gloddio ffosydd dwfn
- sicrhau bod tir sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn cael ei gynnal a'i gadw heb sbwriel a gwastraff arall
Os yw eich tir yn cael ei feddiannu’n anghyfreithlon, gallwch fynd â’r peth ymlaen i’r llys sirol er mwyn cael gorchymyn llys i droi’r deiliaid anghyfreithlon allan. Bydd deiliaid sy’n methu â chydymffurfio â’r hysbysiad hwn i adael y tir cyn gynted ag sy’n rhesymol bosib yn troseddu.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â throseddau amgylcheddol, fel tipio anghyfreithlon a gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd, darllenwch ein tudalen ar droseddau amgylcheddol.
Dwyn diesel
Mae dwyn diesel yn broblem i nifer o ffermydd ac adeiladau gwledig. Mae tanciau tanwydd sy’n cael eu storio mewn lleoliadau gwledig ac anghysbell yn apelgar iawn i ladron sy’n chwilio am darged hawdd.
- dylech gadw tanciau yn agos at yr eiddo lle gallwch eu gweld. Os nad yw hynny’n bosib, dylech ystyried gosod teledu cylch cyfyng (TCC) i weld y tanciau o bell a chyfyngu mynediad gyda waliau, ffensys a gwrychoedd. Gall goleuadau diogelwch ‘gwawr-machlud’ neu oleuadau sy’n synhwyro symudiadau hefyd fod yn ffordd ddefnyddiol o rwystro lladron
- cofiwch gadw golwg ar lefel yr olew yn eich tanc yn rheolaidd. Edrychwch am danwydd sydd wedi’i sarnu, marciau ar gloeon neu unrhyw beth amheus arall
- osgoi gosod tanc storio mewn ardal ynysig neu adeilad anghysbell
- ystyried defnyddio bowser symudol (tancer) sy’n cael ei gadw mewn lle diogel pan nad yw’n cael ei ddefnyddio
- defnyddio ‘lliw diesel’, sy’n golygu y gellir olrhain eich diesel a’i wneud yn llai apelgar i ladron.
Dwyn da byw
Dylech wirio eich da byw a diogelwch y ffensys terfyn yn rheolaidd. Os ydyn nhw’n gwneud mwy o sŵn nag arfer, gallai hynny olygu bod rhywbeth wedi tarfu arnyn nhw.
- gwnewch wiriadau rheolaidd o’r caeau lle mae’r anifeiliaid yn cael eu cadw i weld nad ymyrrwyd â’r ffensys ac nad oes neb arall yn y cae gyda nhw
- defnyddio tagiau clust, brandiau corn, marciau rhewi neu tatŵs er mwyn gallu adnabod eich anifeiliaid yn haws
- cadw eich gwrychoedd, ffensys a gatiau mewn cyflwr da; dylai crogfachau gatiau yn y caeau gael crogfachau capio fel na allan nhw gael eu tynnu’n hawdd; dylid gallu tynnu gridiau gwartheg a’u symud o’u safle pan nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio; defnyddiwch byst cloi i rwystro agoriadau mawr i’r buarth
- ystyried gosod TCC
Dylech wastad riportio unrhyw weithgaredd amheus sy’n gysylltiedig â da byw i’r heddlu.
Diogelwch offer marchogaeth
- diogelu ffenestri ystafell offer marchogaeth ar y tu mewn gyda bariau haearn solet (nid pibell ddur)
- diogelu pob drws gyda chloeon o ansawdd da (dim sgriwiau) ar y crogfachau
- marcio eich offer marchogaeth drwy ddefnyddio pen uwchfioled
- dangos arwyddion rhybudd i atal lladron
- rhoi clo clap ar gatiau gyda chloeon clap sylweddol a chadwyni cryf
- gwrthdroi crogfachau ar dop gatiau er mwyn rhwystro lladron rhag eu codi
- gosod goleuadau diogelwch a larwm lladron
Storio cemegau
- storio gwrtaith mewn adeilad neu ardal bwrpasol sydd wedi’i gloi – peidiwch â gadael i’r cyhoedd eu gweld
- peidiwch â gwerthu gwrtaith oni bai eich bod yn adnabod y darpar brynwr a’i fod yn ddefnyddiwr dilys
- cofnodi popeth sy’n cael ei gludo a’i ddefnyddio a chymryd stoc yn rheolaidd
- cofnodi rhifau cod y gweithgynhyrchwyr a thystysgrifau profion ymwrthedd tanio – efallai y bydd rhaid i chi gyflwyno’r rhain
- os oes anghysondeb gyda’r stoc neu fod stoc ar goll, dylech wastad riportio hynny ar unwaith
Gall Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ddarparu cyngor pellach ar storio/cludo gwrtaith, yn enwedig amoniwm nitrad.
Sut i’w riportio
Os ydych chi'n credu bod trosedd wedi ei chyflawni, neu ar fin cael ei chyflawni, rhowch wybod i ni.
Cynlluniau gwarchod
Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniau gwarchod i dderbyn a riportio gwybodaeth am droseddau yn eich ardal leol.